Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

The National Library of Wales

What's On?
Cefnogwch Ni

Cefnogwch Ni

Cefnogwch ni i ddatblygu ein casgliadau a'n gwasanaethau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Rhowch nawr!

Lansio Roced y Llyfrgell

Llu, 18 Mai 09 13:12:00

 Y compostiwr 'Rocket'


Nid yn unig mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn ceisio arbed hen lawysgrifau, llyfau a mapiau ond mae hefyd am wneud ei rhan i arbed y byd – a hynny drwy lansio ‘roced’! Mae’r Llyfrgell Genedlaethol wedi lansio ei chompostiwr ‘Rocket’, a brynwyd gyda grant o £17,307.50 a ddarparwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru drwy Gronfa Offer Effeithlonrwydd Adnoddau’r Sector Gyhoeddus.


 


Gall y compostiwr brosesu hyd at 1200 litr o wastraff bwyd bob wythnos, ac wrth ychwanegu sglodion pren, ei droi’n gompost cyn pen 14 diwrnod. Proses barhaus yw hon sy’n golygu bod rhaid ychwanegu gwastraff yn ddyddiol, a thynnu compost allan. Ceir mwy o wybodaeth ynglŷn â'r broses ar wefan www.quickcompost.co.uk.


 


Meddai Mark Mainwaring, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Corfforaethol y Llyfrgell, ‘Mae’r Llyfrgell yn cynhyrchu bron i 6.5 tunnell o wastraff bwyd bob blwyddyn, sydd hyd yma wedi mynd i safleoedd tirlenwi. Fe fydd y compostiwr yn ein galluogi i leihau’r gwastraff bron i ddim, a fydd yn dda iawn i’r amgylchedd.  Hefyd, gallwn ddefnyddio’r compost yng ngerddi’r Llyfrgell, gan osgoi gorfod prynu deunydd.’


 


Bu Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn aelod o Gynllun Gwobrwyo’r Ddraig Werdd ers tair blynedd, ac yn meddu ar statws lefel 2 ar hyn o bryd. Mae’r wobr yn cydnabod ymrwymiad y Llyfrgell i leihau ei heffaith ar yr amgylchedd drwy weithredu cynlluniau rheoli gwastraff a buddsoddi mewn ymgyrchoedd arbed ynni.


 


Dywedodd John Gittins, aelod o Fwrdd Ymddiriedolwyr y Llyfrgell, ‘Dyma enghraifft berffaith o sefydliad cenedlaethol ar flaen y gad o ran datblygu cynaliadwy. Mae hyn yn fuddsoddiad yn ein dyfodol, a gellid efelychu hyn ar hyd a lled y wlad er mwyn cwtogi’n llym ar effaith gwastraff ar ein hamgylchedd.’


 


Am fwy o wybodaeth


Philippa Davies


Swyddog Codi Arian: Ymddiriedolaethau a Chymynroddion


01970 632 511


philippa.davies@llgc.org.uk


 

Copyright © Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales 2006

Diweddarwyd: 22-10-2012