Cefnogwch ni i ddatblygu ein casgliadau a'n gwasanaethau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Llu, 18 Mai 09 15:26:00
Fe fydd yr Athro Richard J Evans, hanesydd amlwg ac arbenigwr blaenllaw ar y cyfnod Natsïaidd yn dychwelyd i’w wreiddiau fel y siaradwr gwadd mewn darlith arbennig wedi ei threfnu gan gynllun noddwyr Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Penodau.
Bydd yr Athro, a benodwyd yn ddiweddar yn Athro Regius mewn Hanes Modern ym Mhrifysgol Caergrawnt, yn traddodi darlith ar ‘Looted Art in Europe 1938-45 and its restitution since the Second World War’. Cynhelir y ddarlith yn y Drwm, Llyfrgell Genedlaethol Cymru ar nos Fercher, 27 Mai am 19.30 pm.
Wedi ei eni yn Llundain i rieni o Gymru mae ganddo gysylltiadau teuluol cryf gydag ardal Machynlleth. Roedd teulu ei dad yn hanu o fferm fynydd ger Pantperthog, a bu ei ewythr yn rhedeg yr H J Evans Drug Store yn 25 Stryd Maengwyn, Machynlleth, am yn tynnu at 20 mlynedd ar ôl yr Ail Ryfel Byd.
Ers gweithredu fel y prif dyst arbenigol yn achos enllib David Irving yn yr Uchel Lys yn Llundain yn 2000, mae gwaith yr Athro Richard J Evans wedi ymwneud yn bennaf â’r Holocost. Cyhoeddodd yn ddiweddar The Third Reich at War, 1939-1945, y drydedd gyfrol, a’r olaf mewn cyfres ar hanes yr Almaen dan y Natsïaid.
Nododd Andrew Green, y Llyfrgellydd, ’Gyda bron i 70 mlynedd ers dechrau’r Ail Ryfel Byd mae’r pwnc am ysbeilio celf yn hynod amserol. Mae talaith Califfornia yn yr Unol Daleithiau newydd ddychwelyd tri darlun o gyfnod y Dadeni a gymrwyd oddi ar ddelwyr celf Iddewig yn yr Almaen yn 1930au, i ddisgynyddion ei cyn berchnogion. Roedd y darluniau wedi eu harddangos mewn amgueddfa yng Nghaliffornia ers dros ddeg mlynedd ar hugain.
Ein nod yw sicrhau fod aelodau Penodau’n cael profiadau arbennig ac yn hynny o beth rydym yn hynod falch o gefnogaeth bobl amlwg fel yr Athro Richard J
Evans. Pleser arbennig fydd ei groesawi yma i’r Llyfrgell i annerch. Mae’n argoeli i fod yn noson gofiadwy.’
Darlith yr Athro Richard J Evans
Mercher, 27 Mai 2009
'Looted Art in Europe 1938-45 and its restitution since the Second World War’.
19.30 Derbyniad Gwin
19.45 Darlith
Y Drwm, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Mynediad trwy docyn £5.00 - am ddim i aelodau Penodau
I archebu tocyn cysylltwch â Siop y Llyfrgell (01970) 632 548 neu arlein www.llgc.org.uk/drwm
Dolenni
Gwefan Yr Athro Richard J Evans
Am fwy o wybodaeth
Rhian Haf Evans
Swyddog Codi Arian LlGC: Digwyddiadau a chyfranwyr
01970 632 938