Cefnogwch ni i ddatblygu ein casgliadau a'n gwasanaethau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Iau, 18 Meh 09 09:54:00
Roedd y Llyfrgell Genedlaethol yn falch o groesawu Mr Michael Peart, Cadeirydd Cymdeithas Prydain-Lithwania, ar 27 Mai. Mae Mr Peart yn gyn-lysgennad Prydain i Lithwania – y cyntaf i ddal y swydd wedi annibyniaeth y wlad ym 1991 – ac fe ddaeth i’r Llyfrgell gyda thaith o is-genhadon tramor wedi eu lleoli yng Nghymru. Cyflwynodd Mr Peart rodd garedig i’r Llyfrgell, sef copi ffacsimile a gyhoeddwyd yn ddiweddar o un o arteffactau pwysicaf Lithwania, Beibl Chylinski. Y Beibl hwn oedd y fersiwn cyntaf o’r Hen Destament a argraffwyd yn yr iaith Lithwaneg, wedi’i gyfieithu gan Samuel Boguslaus Chylinski.
Calfinydd Lithwanaidd oedd Samuel Chylinski, a ddaeth i Loegr yn oddeutu 1657 i barhau â’i waith ar Feibl Lithwaneg, ar ôl rhoi cychwyn ar y gorchwyl yn yr Iseldiroedd rai blynyddoedd ynghynt. Mae cysylltiadau rhwng gwaith Chylinski a Chymru, ers i’r Brenin Siarl II ddyfarnu y dylai pob eglwys yn Nheyrnas Lloegr a Dominiwn Cymru wneud casgliad tuag at argraffu’r Beibl. Mynnodd y Brenin hefyd fod ‘a generall Collection through-out this his Kingdome of England & Dominion of Wales, for releife of the Distressed Protestant Churches in the great Dukedom of Lithuania now in a most lamintable & sad condition, groaning under t a heavy persecution’. Ar y pryd, roedd Cymanwlad Gwlad Pwyl a Lithwania dan fygythiad gan Sweden a Rwsia ac roedd marwolaeth ac afiechyd ar led.
Yn 1660, am y tro cyntaf erioed, dechreuwyd argraffu’r Beibl Lithwaneg yn Llundain - 74 mlynedd ar ôl cyhoeddi Beibl William Morgan yn y Gymraeg. Cefnogwyd yr argraffiad gan rai o feddylwyr Protestannaidd mwyaf dylanwadol yr 17eg ganrif, megis Samuel Hartlib, John Dury, Jan Amos Comenius, a’r gwyddonwyr enwog o Rydychen, Robert Boyle a John Wallis. Yn anffodus, nid oedd modd cwblhau’r prosiect oherwydd amgylchiadau anffafriol, yn cynnwys ymgiprys o fewn y gymuned Galfinaidd Lithwanaidd. Ar ôl cyrraedd Salm 40, daeth y gwaith argraffu i ben.
Bu farw Chylinski ac fe’i claddwyd ym mhlwyf Sant Giles Cripplegate yn Llundain ar 5 Gorffennaf 1666. Wedi hynny cyflwynodd dau ŵr adnabyddus o’r enw Medgate a Phipps ddeiseb i’r Cyfrin Gyngor yn gofyn am ‘… Nyneteene pounds odd money for dyet, lodgeing, physique, nurses, funeral charges, burial and otherwise’.
Cedwir yr unig gopi sydd ar ôl o’r Hen Destament anorffenedig yn y Llyfrgell Brydeinig yn Llundain, ynghyd â llawysgrif o gyfieithiad Chylinski o’r Testament Newydd. Ddwy flynedd yn ôl yn llyfrgell Prifysgol Vilnius (prifddinas Lithwania), daethpwyd o hyd i gopïau ffotograffig o’r unig gopi arall y gwyddys amdano o Hen Destament Chylinski, sef y ‘copi Berlin’ a fu ar goll ers yr Ail Ryfel Byd. Mae’r gyfrol a gyflwynir yn seiliedig ar yr unig gopi sydd ar ôl, sef copi’r Llyfrgell Brydeinig, a defnyddiwyd y lluniau o argraffiad coll Berlin ar gyfer y testun a oedd ar goll o gopi Llundain. Ceir rhagarweiniad academaidd cynhwysfawr i’r ffacsimile, sy’n trafod agweddau ieithegol ar gyfieithiad Chylinski, a hefyd yn datgelu gwybodaeth newydd ynglŷn ag amser Chylinski yn Lloegr, yn seiliedig ar lythyrau a ddarganfuwyd yn ddiweddar a dogfen arall nad oedd wedi dod i’r amlwg o’r blaen. Darlunnir y gyfrol gydag ysgythriadau ar themâu Beiblaidd a grëwyd yn arbennig ar gyfer yr argraffiad hwn gan Šarūas Leonaviŏius, artist graffigol a dylunydd llyfrau arobryn o Lithwania.
Cyhoeddwyd y gyfrol hon gan Sefydliad yr Iaith Lithwaneg yn Vilnius, ac fe’i paratowyd gan yr Athro Gina Kavaliūnaitė. Os fydd cyllid yn caniatáu, bwriedir cyhoeddi argraffiad cyffelyb o’r Testament Newydd yn 2010, 350 o flynyddoedd ar ôl rhoi cychwyn ar y gwaith o gyhoeddi cyfieithiad Chylinski.
Bu Cwnswl Anrhydeddus Lithuania yng Nghymru, Anthony Packer, hefyd wrthi’n trefnu’r digwyddiad, gan hefyd ofalu bod y cyflwyniad yn digwydd ar yr un pryd ag ymweliad cynifer o aelodau Cymdeithas y Cwnseliaid yng Nghymru.
Gwybodaeth bellach
Swyddfa’r Wasg LlGC
Medi Jones-Jackson
01970 632 534