Cefnogwch ni i ddatblygu ein casgliadau a'n gwasanaethau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Maw, 16 Meh 09 10:21:00

Bydd archif gwych o leisiau pobl Cymru yn cael ei chyflwyno i Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru am 16:15 pm, dydd Mercher 17 Mehefin yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth.
Mae’r archif yn cynnwys 588 o ffilmiau byrion neu ‘storïau digidol’ a wnaed gan bobl o bob cefndir dros Gymru gyfan mewn gweithdai a gynhaliwyd gan y BBC fel rhan o brosiect Cipolwg ar Gymru / Capture Wales rhwng 2001 a 2007.
Ffilmiau dogfennol byrion yw'r storïau digidol ac fe gawson nhw eu creu a’u golygu gan bobl yn defnyddio camerâu, cyfrifiaduron, sganwyr a’u halbym ffotograffau eu hunain. Un disgrifiad ohonynt yw llyfr lloffion teledu – storïau byr, personol, o’r galon.
Bydd archif Cipolwg ar Gymru yn cael ei throsglwyddo i Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru yn ystod gŵyl DS4 yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth, pan fydd storïwyr Cipolwg ar Gymru yn cyflwyno’r archif gyfan i’r Archif Sgrin a Sain yn y Llyfrgell Genedlaethol. Yno byddant yn cael eu cadw i’r dyfodol, fel cofnod unigryw o fywyd ar ddechrau’r 21ain ganrif, wedi’u hadrodd yn y person cyntaf.
Bydd y cyflwyniad yn digwydd ar ddechrau’r sesiwn llawn, a bydd Mandy Rose, Prif Gynhyrchydd Cipolwg ar Gymru, Andrew Green, Llyfrgellydd y Llyfrgell Genedlaethol, ac Iestyn Hughes, Pennaeth Archif Genedlaethol Sgrin a Sain, Cymru, yn ymuno â’r storïwyr digidol Alan Thomas, Dai Evans a Rhian Cadwaladr.
Dolenni i storïau digidol ar wefan y BBC
Dai Evans - Brynaman
Artist sydd bellach yn ei 80au yw Dai, ac fe luniodd stori ddigidol am ei ‘fodelau’ yn Gymraeg a Saesneg yn un o weithdai cyntaf oll y BBC. Cafodd ei ysbrydoli gan Van Gogh, Dylan Thomas, Glen Baxter a dweud storïau digidol!
Alan Thomas Llanboidy, sir Gaerfyrddin
Mae Alan yn dioddef o atacsia, clefyd sy’n effeithio ar ei gydbwysedd a’i gydsymud. Darlledwyd ei stori ddigidol ysbrydoledig am gario mlaen a pheidio â gadael i’r afiechyd ddifetha’i fywyd ar BBC Cymru a Radio Cymru i nodi diwrnod cenedlaethol Ymwybyddiaeth o Atacsia. Esgorodd y rhaglenni ar lif o ymatebion. Ers iddo lunio’i stori ddigidol fel rhan o brosiect Cipolwg ar Gymru, mynychodd gynhadledd ar E-gynhwysedd yn Awstria yn 2008, lle gallodd dynnu sylw arbennig swyddogion cwmnïau megis Hewlett Packard a Microsoft, yn ogystal â gwleidyddion, at Ymwybyddiaeth o Atacsia, drwy gyfrwng stori ddigidol arall a luniwyd ganddo, sef ‘Stepping Stones’.
Rhian Cadwaladr - Caernarfon, Gwynedd
Mae Rhian yn rhannu ei hamser rhwng gweithio’n rhan amser fel tiwtor drama ac fel gweinyddydd prosiectau, actio o bryd i’w gilydd a bob yn fam amser llawn i bedwar o blant. Ar ôl iddi lunio ei stori ddigidol ei hun, mae wedi bod wrthi’n cynorthwyo pobl o 7 i 84 oed i lunio eu storïau hwythau hefyd. Bydd Rhian yn gyfrifol am gynnal un o’r sesiynau prynhawn yn ystod yr ŵyl.
Marsha O'Mahony – Welsh Newton Common
Mam amser-llawn i ddau blentyn ifanc oedd Marsha, a phrin oedd ganddi unrhyw amser i’w neilltuo iddi hi ei hun. Yn 2004, wedi i’r plant setlo yn yr ysgol, mynychodd Marsha weithdy adrodd storïau digidol a gynhaliwyd gan y BBC yn Nhrefynwy. Ers hynny mae wedi gweithio ar nifer helaeth o storïau fel un o ohebwyr cymunedol BBC Wales, gwirfoddolwyr sy’n sôn wrth wrandawyr am fywyd yn yr ardal leol. Eleni yn DS4 bydd yn lansio grŵp newydd y mae hi wedi helpu i’w sefydlu i Adrodd Storïau Digidol.
Ynghylch Cipolwg ar Gymru – etifeddiaeth barhaol adrodd storïau digidol yng Nghymru
Mae Cipolwg ar Gymru, prosiect adrodd storïau digidol y BBC a’i bartneriaid yn y gymuned wedi helpu dros 900 o bobl drwy Gymru gyfan i lunio eu storïau digidol eu hunain. Cyhoeddir y storïau hyn arlein ac mae dros 400 ohonynt wedi’u darlledu ar deledu’r BBC, gan gynnwys prif raglen newyddion BBC Cymru Wales, Wales Today. Rhwng 2004 a 2007 roedd y storïau ar gael bob awr o’r dydd drwy bwyso’r botwm coch ar sianel ‘Your Stories’ ar BBCi. Darlledwyd dros 150 ohonynt hefyd ar Radio Wales a rhai storïau eraill ar Radio Cymru.
Gwybodaeth bellach
Anwen Jones
Swyddog Datblygu a Rheoli Mynediad
Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru
01970 632 535
Medi Jones-Jackson
Swyddfa'r Wasg
01970 632 534