Cefnogwch ni i ddatblygu ein casgliadau a'n gwasanaethau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Maw, 16 Meh 09 17:08:00
Bydd Kate Lawrence, perfformwraig dawnsio fertigol yn perfformio Descent of the Angel, Dydd Gwener 19 Mehefin am 13:30 pm o do Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Mae Kate yn ddarlithwraig mewn astudiaethau dawns ym Mhrifysgol Surrey yn Gilford. Mae wedi treulio amser yn astudio a dysgu dawnsio fertigol yn y brifysgol ers 5 mlynedd. Mae dawnsio ferigol yn cyfuno dawns â offer a thechnegau dringo creigiau. Mae Kate yn creu ei dawnsfeydd trwy droi waliau adeiliadau yn ‘lawr dawnsio’ ac yn defnyddio offer er mwyn hedfan oddi ar adeiladau.
Yn ôl Kate, ‘ Mae hi yn fraint mawr cael fy nghwahodd i berfformio ar flaen adeilad mor eiconiadd â Llyfrgell Genedlaethol Cymru’.
Mae’r perfformiad yn rhan o gynhadledd ‘Living Landscape’ sydd yn cymryd lle ym Mhrifysgol Aberystwyth. Yn ôl cydlynydd y gynhadledd, Dr Heike Roms,
‘Mewn ffordd ni wnaethom ni ddewis y Llyfrgell i lwyfanu y perfformiad, ond dewis y perfformiwr fel dull o ymwneud ag adeilad y Llyfrgell. Mae’r Llyfrgell Genedlaethol yn adeilad penserniol cryf ac yn adeilad pwysig i dirwedd Aberystwyth. Gan taw themau y gynhadledd yw ‘LIVING LANDSCAPES’ – perfformiad, tirwedd a'r amgylchedd – roedd gennym ddiddordeb mewn llwyfanu perfformiad fyddai yn gadael i ni ymrwymo â phenserniaeth trawiadol y Llyfrgell a fyddai hefyd yn weladwy o’r dref ei hun. Mae’r perfformiad yn barhad o’n perthynas gyda’r Llyfrgell, sydd yn bwysig iawn i ni, ac rydym yn ddiolchgar iawn i’r Llyfrgell Genedlaethol am y cyfle.'
Dolenni
Perfformiad y ddawns fertigol ar dudalen YouTube y Llyfrgell.
Gwybodaeth bellach
Medi Jones-Jackson
Swyddfa’r Wasg
01970 632 534