Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

The National Library of Wales

What's On?
Cefnogwch Ni

Cefnogwch Ni

Cefnogwch ni i ddatblygu ein casgliadau a'n gwasanaethau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Rhowch nawr!

Arddangosfa Alistair Crawford ar agor

Gwe, 03 Gor 09 12:56:00

 


Agorir arddangosfa haf o waith yr arlunydd Alistair Crawford, sydd bellach wedi ymsefydlu yn Aberystwyth, yn y Llyfrgell Genedlaethol heddiw (3 Gorffennaf).
Yn yr arddangosfa hon, 'Rhai Meddyliau a Theimladau', mae Alistair Crawford yn arddangos ei ddarluniau a’i beintiadau mwyaf diweddar o fywyd yng Nghymru a’i deithiau tramor. Bydd yr arddangosfa yn rhedeg tan 9 Hydref.


 


Ganed Alistair Crawford yn 1945 yn Fraserburgh, Aberdeenshire, cyn mynychu Ysgol Gelf Glasgow a dod yn Ddarlithydd yng ngofal Dylunio Tecstilau ym Mhrifysgol Leeds (1968–71). Yn dilyn hyn, cymerodd swydd fel Uwch-ddarlithydd Dylunio Graffig ym Mholytechnig Coventry (1971–73), cyn ennill swydd fel Darlithydd mewn Celfyddyd Graffig ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth yn 1974.

Yn y cyfnod hwn, dechreuodd Alistair gyhoeddi ar hanes celf ac yn 1990 penodwyd ef fel yr Athro Celf cyntaf yng Nghymru. Yn 1994, ar ei anogaeth ef ac o dan ei arweiniad, symudodd yr Adran Gelf gan ddod yn Ysgol Gelf newydd, fel yr adnabyddir heddiw. Fel curadur, a Cheidwad Casgliadau’r Coleg, datblygodd y defnydd o’r casgliadau ar gyfer addysgu ac ymchwil, gan sefydlu Oriel, Amgueddfa ac Archif yr Ysgol Gelf yn ogystal.


 


Yn ôl Alistair Crawford, ‘Dwi yn arddangos fel artist, peintiwr, gwneuthyrwr printiau a ffotograffydd gan ddefnyddio nifer o bynciau eang megis tirwedd a phenserniaeth i waith abstract a cynrychiadol. Mae fy nhweithiau celf yn tarddu o fy atgofio o leoliadau rwy'n arsylwi arnynt, digwyddiadau, pobl a’u tirwedd a phenserniaeth.’


 


Rhai meddyliau a theimladau – rhagor o wybodaeth


 


Swyddfa’r Wasg

Medi Jones-Jackson


01970 632 534


medi.jones-jackson@llgc.org.uk

Copyright © Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales 2006

Diweddarwyd: 22-10-2012