Cefnogwch ni i ddatblygu ein casgliadau a'n gwasanaethau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Gwe, 31 Gor 09 10:20:00
Avril Jones yw Cyfarwyddwr Gwasanaethau Casgliadau newydd y Llyfrgell Genedlaethol, a bydd yn dechrau ar ei dyletswyddau newydd ym mis Awst. Avril Jones yw’r ddynes gyntaf i gymryd ei lle ar dîm rheoli uwch y Llyfrgell.
Mae Avril yn enedigol o Lanllwni, ac fe’i haddysgwyd yn Ysgol Gyfun Llanbedr Pont Steffan ac ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth, lle graddiodd mewn Hanes a’r Clasuron. Treuliodd flwyddyn wedyn yn astudio Llyfrgellyddiaeth yng Ngholeg Llyfrgellwyr Cymru.
Dechreuodd ei gyrfa yn Llyfrgell Coleg Prifysgol Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan ym 1979, cyn symud i’r Llyfrgell Genedlaethol flwyddyn yn ddiweddarach i swydd derbyn a chatalogio llyfrau printiedig. Gyda dyfodiad y cyfrifiadur i’r Llyfrgell yn yr wythdegau cynnar ymgymerodd ag amryw swyddi systemol a thechnegol cyn cael ei phenodi yn Bennaeth Isadran Gyfrifiaduro ym 1999.
Fel Cyfarwyddwr Gwasanaethau Casgliadau bydd gan Avril gyfrifoldeb am warchod, cynnal a datblygu holl gasgliadau’r Llyfrgell – yn cynnwys llawysgrifau ac archifau, deunydd printiedig, mapiau, darluniau, a deunydd electronig. Bydd hefyd yn gyfrifol am gynnig mynediad parhaol i’r casgliadau ac am wasanaethau cadwraethol y Llyfrgell.
‘’Rwy’n edrych ymlaen at ymgymryd â’r swydd newydd’, medd Avril. ‘Fel un o lyfrgelleodd mawr y byd, mae gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru ddyletswydd i gasglu, cynnig mynediad a diogelu deunydd o bob math sy’n ymwneud â Chymru a’i diwylliant yn ei hamryfal agweddau. Mae gan y Llyfrgell, bellach, bresenoldeb amlwg yn y byd mawr electronig cymhleth cyfoes ac mae’n ymgymryd â nifer o brosiectau digido a fydd yn fodd iddi gyflwyno’i chasgliadau i Gymru a’r byd mawr tu allan. Ac mae i’r datblygiadau hyn effeithiau pellgyrhaeddol i ddefnyddwyr ac ymchwilwyr fel ei gilydd.’