Cefnogwch ni i ddatblygu ein casgliadau a'n gwasanaethau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Maw, 11 Aws 09 12:31:00
Mae’r Llyfrgell Genedlaethol wedi cyhoeddi mai’r ffotograffydd Asantiaeth Magnum, David Hurn, yw un o brif siaradwyr gwadd Gŵyl ffotograffeg Lens eleni. Mae’r ŵyl flynyddol yn cael ei chynnal ar Ddydd Gwener 20 Tachwedd yn y Llyfrgell Genedlaethol, Aberystwyth.
Mae Gwyl Lens bellach yn ei 5ed blwyddyn ac wedi denu siaradwyr gwadd megis Philip Jones Griffiths a Rhodri Jones i’r Llyfrgell.
Ganwyd David Hurn, o dras Gymreig, yn Redhill, Surrey. Cychwynnodd y ffotograffydd hunanaddysgedig ar ei yrfa fel cynorthwy-ydd yn y Reflex Agency yn 1955. Tra’n ffotograffydd annibynnol gwnaeth enw iddo’i hun wrth groniclo’r chwyldro yn Hwngari yn 1956. Mi fydd ei sgwrs yn edrych yn ôl dros ei yrfa, o hanner canrif fel ffotograffydd. Yn 2000 cyhoeddodd ei lyfr Land of My Fathers, llyfr ffotograffau ar Gymru sy’n adlewyrchiad o steil creadigol Hurn.
Lleolir Gŵyl LENS yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth, sydd yn gartref i gasgliad ffotograffig mwyaf Cymru (dros 800,000 o ffotograffau). Mae'r casgliad yn cynnwys y llun Cymreig cynharaf, sef daguerreoteip o Gastell Margam a dynnwyd gan Calvert Jones yn 1841.
Mae’r siaradwyr eraill sydd wedi eu sicrhau ar gyfer yr Ŵyl yn cynnwys Keith Morris, y ffotograffydd o Aberystwyth, Russell Roberts o Brifysgol Casnewydd a Dr Paul Bevan a Jane Henley, dau aelod o staff Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Yn ôl Arwel Jones, y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyhoeddus, ‘Mae rhaglen Lens eleni yn addo bod yn achlysur na ddylid ei golli. Mae David Hurn yn cael ei adnabod yn rhyngwladol ers blynyddoedd fel un o brif ffotograffwyr croniclo Prydain, ac rydyn ni’n hynod o gyffrous ei fod am ymuno gyda ni ar gyfer Lens eleni gan ychwanegu at enw da cynyddol yr ŵyl ffantastig hon.’
Am wybodaeth pellach
www.llgc.org.uk/lens09
Tocynnau £20 (£14 NUS) yn cynnwys cinio
Swyddfa'r Wasg
Medi Jones-Jackson
01970 632 534
medi.jones-jackson@llgc.org.uk