Cefnogwch ni i ddatblygu ein casgliadau a'n gwasanaethau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Gwe, 25 Med 09 10:19:00
Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru, mewn cydweithrediad â'i phartneriaid ym Menter Cwm Gwendraeth a Chyngor Sir Caerfyrddin, wedi trefnu cyfres o ddigwyddiadau yng Nghwm Gwendraeth yr hydref yma.
Trwy gydol mis Hydref a than 13 Tachwedd, cynhelir cyfres o ddarlithoedd, ffilmiau, arddangosfa a gwaith maes i ysgolion yn yr hen gwm ddiwydiannol i'r gogledd o Lanelli.
Am ragor o wybodaeth ac i weld y calendr o ddigwyddiadau ymwelwch â'n tudalen digwyddiadau Cwm Gwendraeth.