Cefnogwch ni i ddatblygu ein casgliadau a'n gwasanaethau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Mer, 11 Tac 09 11:17:00
Ar adeg Diwrnod y Cadoediad, mae’r Llyfrgell Genedlaethol yn falch o gyhoeddi fod fersiwn ddigidol o’r copi gwreiddiol o gerdd enwog Hedd Wyn, Yr Arwr, nawr ar wefan y Llyfrgell.
Cyfansoddwyd Yr Arwr gan Hedd Wyn (Ellis Humphrey Evans) o Drawsfynydd a oedd yn aelod o 15fed Bataliwn y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig. Er i’r gerdd ennill y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Penbedw yn 1917, ni eisteddodd y bardd erioed ynddi gan iddo farw ar faes y gâd yn Ypres ar ddiwrnod olaf Gorffennaf 1917.
Oherwydd tristwch y digwyddiad taenwyd lliain ddu ar draws y Gadair er cof am y bardd.
‘Cyflwynwyd y gerdd hon i'r Llyfrgell gan J.R. Jones, ysgolfeistr o Lwyn Celyn ger Trawsfynydd. Mae archif Eisteddfod Genedlaethol Cymru hefyd yn cael ei chadw yn y Llyfrgell ac yn cynnwys cerddi buddugol eisteddfodau cenedlaethol a phob math o ddeunydd diddorol a phwysig eraill. Heb os, i ni fel Llyfrgell, ac i ni fel cenedl, mae cerdd enwog a hanes hynod drist yma yn rhywbeth sy’n bwysig ei gofio a’i thrysori,’ meddai Lyn Lewis Dafis, Pennaeth Uned Digido a Meatadata.
Gwybodaeth Bellach:
Siôn Jobbins, Swyddfa’r Wasg LlGC: 01970 632902 sion.jobbins@llgc.org.uk
Dolenni: