Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

The National Library of Wales

What's On?
Cefnogwch Ni

Cefnogwch Ni

Cefnogwch ni i ddatblygu ein casgliadau a'n gwasanaethau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Rhowch nawr!

Edrychiad Manwl - arddangosfa Alan Percy Walker

Maw, 08 Rha 09 10:31:00

Bydd arddangosfa ‘Edrychiad Manwl’ gan un o artistiaid topograffigol gorau Cymru, Alan Percy Walker, yn cael ei chynnal yn y Llyfrgell o 7 Rhagfyr 2009 - 12 Chwefror 2010.


 


Ganwyd Alan Percy Walker yng Nghaint, ond fe dreuliodd ei flynyddoedd cynnar yn Llundain ar ardal wledig o amgylch ffin Caint-Sussex cyn symud i Benrhyn-coch ar gyrion Aberystwyth yn 1988.


 


Mae angen rheswm go gryf ar ddyn i droi cefn ar yrfa lwyddiannus ym myd busnes, gan adael yr holl wallau sy’n cyd-fynd ag o. Ond, dyna yn union wnaeth A P Walker yn 1972. Penderfynodd ffarwelio â’i swydd yn y diwydiant olew gan symud i fwthyn gwledig. Pam y newid? Yn syml, ni allai ymwrthod â’r dynfa i’r byd celf rhagor.


 


Erbyn heddiw, mae’n artist ac awdur poblogaidd. Llynedd fe ymddangosodd ei waith mewn 11 o orielau annibynnol Prydain, ac mae ei waith erbyn hyn yn ymddangos nid yn unig ym Mhrydain ond yn Ewrop ac yn UDA hefyd. Mae ei luniau’n ddathliad o fanyldeb anhygoel … ac amynedd crefftwr.


 


Mae Walker yn adnabyddus am ei waith dyfrlliw o drefluniau a thirweddau morol. Cafodd ei gomisiynu gan nifer o sefydliadau: yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, amrywiol brifysgolion, y Royal Marines a chomisiynnwyd ef hefyd ar nifer o achlysuron i beintio gardd y fedal aur fuddugol yn Sioe Flodau Chelsea.


 


Mae nifer o’i luniau wedi eu cyhoeddi fel argraffiadau cyfyngedig mewn cylchgronau megis Country Life, ond mae’r artist yn pwysleisio nad peintiwr brics a mortar yn unig ydyw, mae ei ddiddordeb mewn themâu eraill wedi cynyddu yn ystod y blynyddoedd.


 


‘Mae fy ngwaith yn boblogaidd iawn gyda chomisiynwyr sy’n rhoi statws uchel ar fanyldeb; y lluoedd arfog, perchnogion ceir a chychod, garddwyr. Dwi’n credu fod pobl yn gwerthfawrogi a mwynhau manyldeb a’r tebygrwydd sydd gan fy ngwaith i adeiladau, planhigion neu wrthrych arall sy’n bwysig ac annwyl iddynt,’ meddai said Alan Percy Walker.


 


Bydd yr arddangosfa yn nodweddu lleoliadau ar draws Cymru, gan gynnwys Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Portmeirion a hyd yn oed hen Ysgol Ramadeg Ardwyn yn Aberystwyth.


 


Unwaith iddo gwblhau llun, byddwch yn teimlo eich bod yn adnabod cymeriad yr adeilad, hyd yn oed ei wallau.


 


Yn ôl Arwel Jones, Cyfarwyddwr Adran Gwasanaethau Cyhoeddus:


‘Mae’n fraint gan y Llyfrgell Genedlaethol i groesawu’r arddangosfa hon. Mae’n rhoi pleser i ni allu cyd-weithio gydag artist sy’n arbenigo mewn peintio rhai o adeiladau mwyaf blaenllaw Cymru.’


 


 


'Edrychiad Manwl'


Alan Percy Walker


Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth


7 Rhagfyr 2009 – 12 Chwefror 2010


 


Gybodaeth bellach a delweddau


Elin Hâf, NLW Press Office: 01970 632 534  elin.williams@llgc.org.uk

Copyright © Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales 2006

Diweddarwyd: 22-10-2012