Cefnogwch ni i ddatblygu ein casgliadau a'n gwasanaethau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Iau, 10 Rha 09 13:55:00
Bydd y rhai sydd am ddarganfod pwy yw pwy, neu’n hytrach pwy oedd pwy yng Nghymru ‘nawr yn gallu pori yn y diweddariad newydd i’r Bywgraffiadur Ar-lein. Ceir bellach bron i 5,000 o enwau ‘beirdd a chantorion, enwogion o fri’ ar y wefan safonol a dibynadwy ddwyieithog hon, wedi i enwau llawer o’r rhai a fu farw er 1970 gael eu hychwanegu i’r Bywgraffiadur.
Ymysg yr enwau newydd mae gwleidyddion megis:
Ceir yma hefyd ffigurau amlwg ym mywyd diwylliannol, crefyddol a chymdeithasol Cymru. Yn eu plith mae:
Cyn hyn roedd y Bywgraffiadur arlein yn fersiwn electronig o’r Bywgraffiadur Cymreig, cyfrolau print a gyhoeddwyd gan Gymdeithas y Cymmrodorion yn Llundain a oedd yn cynnwys erthyglau am Gymry amlwg a fu farw cyn 1970. Dan olygyddiaeth yr academydd a chyn Lyfrgellydd y Llyfrgell Genedlaethol, Dr Brynley Roberts, ychwanegwyd erthyglau newydd am bobl a fu farw ar ôl 1970. Penderfynodd y Cymmrodorion i beidio â pharhau i gyhoeddi rhagor o gyfrolau print am y tro ond manteisio ar y cyfleusterau chwilio eang a geir trwy gyfrwng y datblygiadau newydd ym maes digido. Trwy gydweithrediad â’r Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth, diweddarir y deunydd yn gyson arlein trwy gywiro cynnwys y cyfrolau print ac ychwanegu rhai cofnodau na lwyddwyd i’w cynnwys yn y cyfrolau print cynharach.
‘Mae’r Bywgraffiadur ar-lein eisoes wedi ennill ei phlwy fel adnodd awdurdodol ar gyfer unrhyw un sydd â diddordeb ym mywyd Cymru. Mae’r ffaith ei fod ar-lein yn ei wneud yn hawdd iawn i bobl ddarganfod cofnod am berson arbennig. ‘Mae’n enghraifft o’r cyd-weithio da sydd wedi bodoli ers blynyddoedd rhwng y Llyfrgell Genedlaethol a’r Cymmrodorion - dau o sefydliadau diwylliannol pwysicaf Cymru,’ meddai Brynley Roberts.
Mae cwmpas amser y Bywgraffiadur yn hir, yn ymestyn o Cunedda a ddaeth o’r Hen Ogledd i erlid y Gwyddelod allan o Gymru wedi cwymp yr Ymerodraeth Rufeinig hyd at arwyr heddiw. Mae’n cynnwys bywgraffiadau tywysogion, uchelwyr, llenorion, swyddogion o bob math, gweinidogion, crefftwyr, mabolgampwyr, llafurwyr, milwyr, diwydianwyr a ffermwyr, i enwi dim ond ychydig a heb sôn am y llu o ferched diddorol y sonnir amdanynt.
Gwybodaeth Gefndir
Mae’r Bywgraffiadur Ar-lein yn drwyadl ddwyieithog gyda phob ysgrif yn y Gymraeg ac yn y Saesneg. Mae’n cyfuno’r dair gyfrol Gymraeg Y Bywgraffiadur Cymreig hyd 1940, Y Bywgraffiadur Cymreig, 1941- 1950 a’r Bywgraffiadur Cymreig, 1951 - 1970 a’r ddwy gyfrol Saesneg The Dictionary of Welsh Biography down to 1940 a’r Dictionary of Welsh Biography, 1941-1970 a gyhoeddwyd gan Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion, ynghyd â’r erthyglau newydd a gomisiynwyd gan Gymdeithas y Cymmrodorion. Mae'n adnodd gwerthfawr i bawb sy'n ymddiddori mewn hanes a diwylliant Cymru.
Gwybodaeth bellach
Siôn Jobbins, Swyddfa’r Wasg LlGC: 01970 632 902 sion.jobbins@llgc.org.uk