Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

The National Library of Wales

What's On?
Cefnogwch Ni

Cefnogwch Ni

Cefnogwch ni i ddatblygu ein casgliadau a'n gwasanaethau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Rhowch nawr!

Gem Gyfrifiadurol y Llyfrgell

Gwe, 25 Mai 07 16:47:00

Yr hen iawn a’r newydd sbon ochr yn ochr ar Stondin Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Eisteddfod yr Urdd.



Bydd stondin Llyfrgell Genedlaethol Cymru ar Faes Eisteddfod Genedlaethol Urdd Gobaith Cymru Sir Gâr yn cyfuno’r dechnoleg ddiweddaraf â dulliau arddangos traddodiadol i gyflwyno rhai o drysorau Cymru i blant a phobl ifanc. Ochr yn ochr ag ANTUR FAWR NANW - gêm gyfrifiadurol gyffrous a newydd sbon sy’n cynnwys Llyfr Du Caerfyrddin a 6 o drysorau eraill, bydd copi ffacsimili o’r Llyfr Du, un o’r llawysgrifau Cymraeg cynharaf i oroesi.



Nod ANTUR FAWR NANW yw cynorthwyo llyfrgellydd i ddod o hyd i 7 trysor, a’u dychwelyd i’r Llyfrgell. Y trysor cyntaf yw’r Llyfr Du, ac o ddod i hyd iddo a’i ddychwelyd bydd y bobl ifanc yn dysgu rhywbeth am y cynnwys cyn symud ymlaen at y trysor nesaf. Serch hynny, bydd yn rhaid goresgyn nifer o rwystrau cyn cael gafael ar y Llyfr Du, a pheidio oedi gormod gan fod y cloc yn tician ac amser yn brin!



Hefyd bydd copi ffacsimili o Lyfr Du Caerfyrddin yn cael ei arddangos ar stondin Llyfrgell Genedlaethol Cymru ar y maes, nôl yn y dre ble tybiwyd iddo gael ei gopïo gan fynach yn y 13eg ganrif. Ymhlith cynnwys y Llyfr Du mae’r fersiwn ysgrifenedig cynharaf o Chwedl Cantre’r Gwaelod, cerddi am y Brenin Arthur a’i farchogion, darnau pwysig o Chwedlau Myrddin, cerddi crefyddol a phroffwydoliaethau.



Dywed Owen Llywelyn, Uwch Swyddog Addysg Llyfrgell Genedlaethol Cymru:



“Bydd cyfle gan bobl ifanc sy’n ymweld â stondin Llyfrgell Genedlaethol Cymru ar faes Eisteddfod yr Urdd i weld copi ffacsimili o’r Llyfr Du, un o drysorau pennaf Cymru. Bydd gweithgareddau gydol yr wythnos fydd yn dysgu plant a phobl ifanc am bwysigrwydd y Llyfr Du i Gymru, ac un o’r rhain fydd y gêm gyfrifiadurol gyffrous.”



Bydd y gêm sy’n defnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf yn cael ei gosod ar wefan addysg Llyfrgell Genedlaethol Cymru ar ôl ei lansio yn Eisteddfod yr Urdd, a bydd yn siŵr o apelio at chwaraewyr gemau cyfrifiadurol o bob man.



Bydd copi ffacsimili o’r Llyfr Du ar gael drwy’r wythnos i bobl gael ei weld, a’r gêm ar gael i’w chwarae drwy’r wythnos. Galwch draw i weld y ddau.



Am 11.30 ddydd Iau 31 Mai bydd y Prifardd, Mererid Hopwood, yn lansio llyfr canmlwyddiant y Llyfrgell Genedlaethol, Yn y Lle Hwn.  Mae’r llyfr yn llawn lluniau lliw o drysorau a chasgliadau annisgwyl y Llyfrgell ac yn darlunio ei hanes a’i chyfoeth.


 


Ble mae nhw nawr? Am 4.00 ddydd Gwener 1 Mehefin, gobaith is-bwyllgor Llefaru‘r Eisteddfod yw y bydd pob un o enillwyr cystadlaethau ‘adrodd’ Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Caerfyrddin 1967 yn dod i stondin y Llyfrgell ac ateb y cwestiwn.




Am Wybodaeth Bellach:



Owen Llywelyn, Uned Addysg, LlGC: 07813 795 096 | 01970 632 528 owen.llywelyn@llgc.org.uk 



Rhodri Morgan, Uned Addysg LlGC: 01970 632 913  rhodri.morgan@llgc.org.uk



Siôn Jobbins, Swyddfa’r Wasg LlGC: 01970 623 902  sij@llgc.org.uk


 


 

Copyright © Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales 2006

Diweddarwyd: 22-10-2012