Cefnogwch ni i ddatblygu ein casgliadau a'n gwasanaethau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Maw, 05 Ion 10 13:53:00
Gan mlynedd yn ôl, ym 1909, daeth casgliad llawysgrifau o Ystâd Peniarth yn eiddo i Lyfrgell Genedlaethol Cymru ac i nodi’r ffaith, mae rhai o’r llawysgrifau mwyaf pwysig yn cael eu harddangos nôl ym Meirionnydd yn Llyfrgell Dolgellau tan 30 Ionawr 2010.
Hwn yw’r casgliad pwysicaf o lawysgrifau Cymraeg, ond fe gynnwys hefyd weithiau gwerthfawr wedi eu hysgrifennu mewn Saesneg, Lladin, Cernyweg a Ffrangeg. I ddathlu canmlwyddiant dyfodiad y llawysgrifau pwysig hyn i Aberystwyth, cyflwynir yma ffacsimilïau o 3 thrysor o’r casgliad; Llyfr Du Caerfyrddin, Llyfr Taliesin a Llyfr Gwyn Rhydderch.
Ymhlith y 560 llawysgrif sydd yn y casgliad, mae nifer helaeth a gasglwyd gan yr hynafiaethydd Robert Vaughan (c. 1592-1667) i’w lyfrgell yn Hengwrt, Meirionnydd. Daeth llyfrgell Hengwrt i feddiant W W E Wynne, Peniarth ger Llanegryn ym 1859, a phrynwyd llyfrgell Hengwrt-Peniarth gan Syr John Williams, prif gymwynaswr y Llyfrgell Genedlaethol, ym 1904. Fe’i trosglwyddwyd i Aberystwyth 5 mlynedd yn ddiweddarach.
‘Byddai etifeddiaeth lenyddol a hanesyddol Cymru’n llawer tlotach pe na bai’r eitemau hyn wedi eu diogelu yn sir Feirionnydd tros y blynyddoedd. Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru felly yn ddiolchgar iawn i Sir Feirionnydd a theulu Wynne, Peniarth, am ei cymwynas a’r genedl. Dyma rai o’n trysorau mwyaf fel cenedl,’ meddai Maredudd ap Huw, Llyfrgellydd Llawysgrifau y Llyfrgell Genedlaethol.
Gellir gweld y llawysgrifau gwreiddiol yma a nifer o lawysgrifau gwerthfawr eraill o gasgliad Peniarth mewn arddangosfa arbennig yn ystafell arddangos Hengwrt yn y Llyfrgell Genedlaethol hyd at Mai 2010.
‘Rydym ni’n hynod falch fod y Llyfrgell Genedlaethol wedi cytuno i arddangos rhai o drysorau’r genedl yn Llyfgrell Dolgellau. Mae’n ein hatgoffa o’r rhan bwysig y chwaraeodd Sir Feirionnydd yn sefydlu’r Llyfrgell ac yn cadw llinyn aur ein diwylliant a’n hiaith yn saff,’ meddai Elfyn Evans, Pennaeth Llyfrgell Dolgellau.
Mae’r gyfrol hon yn cynnwys y casgliad cynharaf o farddoniaeth Gymraeg. Fe’i hysgrifennwyd, a hynny yn anarferol o urddasol, tua chanol y 13eg ganrif, ac erbyn yr 16eg ganrif roedd ym meddiant Priordy Caerfyrddin. Cynhwysa gerddi crefyddol a chwedlonol, rhai’n gysylltiedig â chwedl Myrddin. Yn y Llyfr Du ceir y cofnod cynharaf o chwedl boddi Cantre’r Gwaelod.
Ymhlith cynnwys y llawysgrif hon, a ysgrifennwyd yn bur gynnar yn y 14eg ganrif, mae 12 cerdd Gymraeg y credir mai gwaith dilys Taliesin ydynt. Canai Taliesin gerddi moliant i Urien, tywysog tir Cymraeg ei hiaith Rheged (yr ardal o amgylch aber afon Solway yn ardal y ffin rhwng Yr Alban a Llogr heddiw) tua diwedd y 6ed ganrif. Gwelir yma farwnad Taliesin i Owain ab Urien, a llofnod Robert Vaughan, a ddiogelodd y llawysgrif yn llyfrgell Hengwrt yn ystod hanner cyntaf yr 17eg ganrif.
Llawysgrif a ysgrifennwyd tua 1350, o bosibl yn abaty Ystrad Fflur, ac yn ôl pob tebyg ar gyfer Rhydderch ab Ieuan Llwyd, uchelwr a noddwr beirdd o ardal Llangeitho, Ceredigion. Casgliad o destunau rhyddiaith Cymraeg yw’r Llyfr Gwyn, ac yn eu plith y testun cynharaf o’r Mabinogi sydd bron iawn yn gyflawn. Dangosir yma ddechrau chwedl Branwen ferch Llyr.
Dolenni:
Gwybodaeth Bellach
Siôn Jobbins, Swyddfa’r Wasg LlGC: 01970 632 902 sion.jobbins@llgc.org.uk
LlGC ar y we
Cofiwch hefyd fod modd dilyn hanes y Llyfrgell ar: