Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

The National Library of Wales

What's On?
Cefnogwch Ni

Cefnogwch Ni

Cefnogwch ni i ddatblygu ein casgliadau a'n gwasanaethau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Rhowch nawr!

The Living - ffilm ar Newyn Mawr Stalin yn Wcráin

Mer, 13 Ion 10 13:46:00

Bydd ffilm am y newyn mawr y ceisiodd Stalin ei guddio, ond a ddarganfuwyd ac yna datgelwyd gan newyddiadurwr Cymreig dewr, yn cael ei dangos yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru am 13:15 pm Dydd Mawrth 19 Ionawr.

Mae The Living (Живі) yn adrodd hanes y digwyddiadau trasig yn Wcráin yn 1932-33 ac ymdrech un Cymro i ddweud wrth y byd beth oedd yn digwydd. Mae'n cyflwyno ongl newydd ar y newyn a greodd Stalin yn Wcráin ac yn adrodd hanes pobl fu’n dyst i'r miliynau a fu farw a’r miliynau mwy a ddioddefodd yr erchyllderau.

Ochr yn ochr â stori’r Wcráiniaid mae hanes y newyddiadurwr o Gymro, Gareth Jones. Teithiodd Jones drwy Wcráin, ar drên neu ar droed, gan weld drosto'i hun sut oedd pobl yn dioddef. Cyhoeddoedd erthyglau yn y papurau newyddion Prydeinig gan dynnu sylw at y ddioddefaint, marwolaeth a diffyg bwyd sylfaenol yn Wcráin – gwlad a fu’n enwog am ei thir amaethyddol bras. Ond ar y cyfan anwybyddwyd a bychanwyd Jones am hyd yn oed awgrymu pethau o'r fath. Lladdwyd Gareth Jones ym 1935 yn Manchukuo ac yntau ond yn 29 oed ac mae nifer yn dadlau hyd heddiw fod ei farwolaeth gynamserol o ganlyniad i ddial Stalin am barodrwydd Jones i ddatgelu’r newyn anweledig.

Comisiynwyd ffilm The Living gan Lywodraeth Wcráin i nodi 75 mlwyddiant yr ‘Holodomor’ (y newyn) ac i anrhydeddu Gareth Jones am ei ymdrechion i ddweud y gwir wrth y byd er gwaethaf y ffaith nad oedd neb yn gwrando arno.

Bu’r criw ffilm Wcráineg, o dan y cyfarwyddwr Serhiy Bukovsky, yn ffilmio yng Nghymru gan fynd i’r Barri, tref enedigol Gareth Jones ac i Aberystwyth, lle roedd Gareth yn fyfyriwr ac i Lyfrgell Genedlaethol Cymru lle cedwir llawer o'i bapurau. Bydd arddangosfa fechan o'i gasgliad yn y Llyfrgell Genedlaethol i'w gweld yn y Drwm.

Mae'r ffilm yn Wcráineg ond gydag is-deitlau Saesneg. Mae mynediad am ddim ond fe'ch cynghorir i archebu tocyn o flaen llaw. Bydd nith Gareth Jones, Siriol Colley a'i mab, Nigel, hefyd yn y sgrîniad yn Aberystwyth. Dangosir The Living y noson flaenorol yng Nghanolfan Celfyddydau Chapter yng Nghaerdydd ym mhresenoldeb y Gweinidog dros Ddiwylliant, Alun Ffred Jones AC.

’Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn falch iawn i ddangos The Living ac i groesawu Siriol a Nigel Colley unwaith eto i Aberystwyth. Mae archifau Gareth Jones yn y Llyfrgell yn un o'n rhai mwyaf diddorol gan daflu goleuni ar fywyd a chyfnod cyffrous ond trist yn hanes y byd' meddai Andrew Green, Llyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru.


 


Dolenni

 


 


The Living
13:15 pm Dydd Mawrth 19 Ionawr, 2010
Drwm, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Aberystwyth

Mynediad am ddim trwy docyn yn unig


 


Gwybodaeth bellach
Siôn Jobbins, Swyddfa’r Wasg LlGC: 01970 632 902 sion.jobbins@llgc.org.uk

Copyright © Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales 2006

Diweddarwyd: 22-10-2012