Cefnogwch ni i ddatblygu ein casgliadau a'n gwasanaethau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Llu, 25 Ion 10 14:56:00
Gyda marwolaeth annhymig Dave Berry ddydd Gwener 22 Ionawr, nid colli cyn gyd-weithwr yn unig wnaeth Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru, ond cyfaill triw a’i chefnogwr mwyaf brwd.
Yn dilyn gyrfa newyddiadurol, a chyda chymorth cyfeillion a Chyngor Ffilm Cymru, cafodd Dave y cyfle i ysgrifennu’r llyfr pwysicaf ar berthynas Cymru â ffilm, Wales and Cinema: the first hundred years, a gyhoeddwyd gan Wasg Prifysgol Cymru yn 1994.
Yn 1997 ymunodd â Sgrîn ac yna Archif Ffilm a Theledu Cymru fel Swyddog Ymchwil. Yn 2001 unwyd yr Archif â chasgliadau clyweledol y Llyfrgell Genedlaethol, gan greu Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru. Nid oes modd mesur ei gyfraniad i’r maes, ac roedd y Llyfrgell Genedlaethol, ei gyflogwr hyd ei ymddeoliad yn 2005, yn hynod o freintiedig i gael aelod o staff mor wybodus, hawddgar ac ymroddedig.
Dywedodd Andrew Green, y Llyfrgellydd ar glywed y newyddion trist,
‘Dave Berry oedd polymath y sinema yng Nghymru. Wedi mynd ati i feistroli’r maes, fe ymrôdd yn llwyr i hyrwyddo ffilm yng Nghymru, ynghŷd â phawb a phopeth a oedd yn ymwneud â’i hanes. Gallai siarad yn huawdl ar bob agwedd o’r maes, a daeth pawb i dderbyn fod ei Wales and Cinema yn glasur. Yma yn y Llyfrgell Genedlaethol roedd ei gyfraniad i Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru yn gwbl arbennig.’
Ategodd Iestyn Hughes, Pennaeth Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru.
’Fe ddywed Richard Burton yn y ffilm Dylan Thomas fod y gwrthrych ‘yn caru llefydd glan môr, ond llefydd bach glan môr Cymru fwyaf oll’, ac felly y carodd Dave Berry hanes ffilm yn grwn, ond hanes y ffilm Gymreig yn bennaf oll. Fe weithiodd yn ddiflino ar ran yr Archif, gan ddefnyddio ei wybodaeth anhygoel a’i rwydwaith fyd-eang o gysylltiadau i ddenu trysorau bach i’r casgliad. Ef oedd yn arwain ein dangosiadau am flynyddoedd maith, gan ddadlau na ddylid byth taflunio ffilm heb egluro’r cyd-destun i’r gynulleidfa. Roedd bob amser yn mynnu’r safonau uchaf, ac yn aml yn gwthio ei hun i’r eithaf heb ystyriaeth yn y byd am ei les ei hun. Ef yn anad neb oedd yn gyfrifol am i ni gynnal gŵyl ffilm Fflics, i ddathlu canmlwyddiant y Llyfrgell Genedlaethol; menter anhygoel o uchelgeisiol ar y pryd. Roedd yr ŵyl yn antur enfawr i archif weddol fach, ac roeddem oll mor falch o’r llwyddiant a gafwyd, a bod y llwyddiant hwnnw’n deyrnged briodol i Dave.
Roedd Iola Baines, Swyddog Datblygu Ffilm AGSSC yn ffrind a chyd-weithiwr agos iddo,
‘Gwybodaeth ddigymar Dave Berry oedd sbardun a chanllaw’r Archif. Ei gyfrol ‘Wales and Cinema’ oedd ein beibl, ac roedd ei angerdd dros ffilmiau Cymreig o bob math yn golygu fod ein dangosiadau a’n digwyddiadau cyhoeddus i gyd yn gymysgedd braf o ddyfnder dysg ac afiaith heintus. Roedd ei weld yn cadeirio trafodaethau yn bleser pur – heb or-wneud y defnydd o’r trylwyredd oedd yn nodweddiadol o’i baratoadau ar gyfer yr achlysur, gallai ennyn ar ymatebion difyr gan eraill cyn mynd ati i gyfoethogi’r cyfraniadau hynny ei hun wedyn, gyda phob sylw ganddo yn ymddangos fel petaen nhw’n newydd a gwreiddiol. Ni allai ddygymod â ffyliaid a doedd neb yn fwy o ffyliaid yn ei olwg nag ymchwilwyr nad oeddent yn cymryd eu gwaith o ddifrif – h.y. disgwyliai iddynt chwilio am dystiolaeth wreiddiol – yn hytrach na dibynnu ar y we neu ar erthyglau blêr eu harddull. Byddai diffyg troed-nodiadau yn arwydd o hyn i Dave. Roedd yn gyfathrebwr heb ei ail, gyda thro ymadrodd a chariad at iaith a allai swyno unrhyw un i ymddiddori yn yr hyn oedd ganddo i’w ddweud. Yn nhermau ein hetifeddiaeth ffilm, ef a osododd y safon, gan ddangos i ni yr hyn y dylem chwilio amdano, sut i werthfawrogi ein darganfyddiadau a sut orau i’w dathlu.’
Ac roedd gan John Hefin, cyfaill iddo, feddwl mawr o Dave Berry,
‘Sais gwych oedd Dave Berry a ymroddodd yn ddiflino ac yn aml yn ddi-dâl i greu ei gampwaith ‘Wales and Cinema – the first hundred years”, carreg filltir o lyfr yn hanes llunyddiaeth, ac fe saif yn gyfrol arloesol ac yn gofeb gariadus i’w gyfraniad hael.’
Cyflwynwyd y mwyafrif o archif ymchwil bersonol Dave Berry i’r Llyfrgell Genedlaethol ychydig cyn iddo ymddeol, a gellid cael mynediad iddi yn swyddfeydd AGSSC trwy apwyntiad.
Gybodaeth bellach
Siôn Jobbins, Swyddfa’r Wasg LlGC: 01970 632 902 post@llgc.org.uk