Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

The National Library of Wales

What's On?
Cefnogwch Ni

Cefnogwch Ni

Cefnogwch ni i ddatblygu ein casgliadau a'n gwasanaethau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Rhowch nawr!

Cyfrifiaduron - Achubiaeth neu Fygythiad i'n Harchifau?

Gwe, 29 Ion 10 12:32:00

Nid pwy fydd yma ymhen can mlynedd ond beth fydd yma? Dyna’r cwestiwn mawr sy’n poeni nifer o bobl ym maes archifo a llyfrgelloedd wrth iddynt bryderu fod defnydd awduron a llenorion o gyfrifiaduron ac ebost yn golygu y gallai llawer iawn o waith gwreiddiol fynd ar goll am byth.


 


Mewn darlith ar 3 Chwefror 2010 bydd Ifor ap Dafydd, Swyddog Datblygu Archif Lenyddol Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn trafod profiadau rhai o lenorion Cymru wrth iddynt fynd ati i greu a chadw eu gwaith ar gyfrifiadur ac ar bapur. Mae swm gwybodaeth ddigidol yn codi bob dydd wrth i bob un ohonom greu ffeiliau, lluniau digidol a chyfrannu at wefannau ac ati, ond nid yw’r pethau hyn yn para yn yr un ffordd, ac nid ydynt chwaith mor ddiogel â’r hen bapur a’r inc.


 


‘Tra bod hi’n bosib i ni weld hen lawysgrifau o’r oesoedd canol – meddyliwn am rai o drysorau’r Llyfrgell fel Llyfr Taliesin neu’r Hengwrt Chaucer, neu ddeunydd mwy diweddar fel copi cynharaf Hen Wlad fy Nhadau neu fap Dylan Thomas o Llarregub ar gyfer Under Milk Wood - mae’r deunydd yma wedi goroesi blynyddoedd neu ganrifoedd hyd yn oed. Ond mae deunydd digidol yn gofyn am fwy o ofal. Ni allwn fforddio gadael hen ffeiliau cyfrifiadurol, gan obeithio y byddant yn gweithio yn y dyfodol, gan fod technoleg yn newid mor gyflym. Rhaid gweithredu nawr.’


 


Ers 2008 mae Ifor wedi bod yn ceisio annog llenorion i feddwl am gadw a diogelu’r gwaith sydd ganddynt ar gyfrifiadur fel na fydd y genedl yn dlotach yn y dyfodol. Mae’n ddiddorol meddwl, y bu i Johannes Guttenberg, dyfeisydd yr argraffydd modern farw ar 3 Chwefror yn 1468, ac mai hwylustod allweddell y teipiadur sydd mewn perygl o wneud gwaith archifwyr y dyfodol yn dlotach wrth i lenorion heddiw wasgu’r botwm ‘dileu’, neu ffeiliau fynd yn angof.


 


Mae gweld teithi meddwl llenor a datblygiad eu gwaith, mae hynny’n mynd fwy fwy anodd wrth i bobl ddileu eu camgymeriadau neu wella ar ei drafft ar y cyfrifiadur yn hytrach na gyda’r ysgrifbin. Diflanna’r dystiolaeth fel petai. Ochr arall y geiniog yw bod dehongli pa un yw’r fersiwn ‘gwreiddiol’ yn anos bellach hefyd, gan y gall llenorion gadw amryfal fersiynau gwahanol gan fod hen ddigon o le ar gof y cyfrifiadur! 

Mae bygythiad hefyd nad yw’n llenorion yn diogelu eu gohebiaeth bellach gan fod cymaint ar ffurf ebost yn hytrach na’r llythyr traddodiadol. Er bod pobl yn dibynnu’n drwm ar eu hebost, ac yn ei brisio, prin iawn yw’r rheiny sy’n ceisio ei gadw’n ddiogel.


 


Un o fanteision y we yw gallu rhannu cyfoeth ein casgliadau. Mae’r Llyfrgell hefyd yn archifo gwefannau tua 20 o lenorion - gweithgaredd na fyddai galw amdano yn y gorffennol, a gwedd arall ar siâp archifau llenyddol y dyfodol.’ esbonia Ifor.


 


Dolenni

 


Ifor ap Dafydd


‘Llenyddiaeth a Chyfrifiaduron’


Cyflwyniad Awr Ginio yn y Drwm


Llyfrgell Genedlaethol Cymru


Aberystwyth


 


13:15


Dydd Mercher 3 Chwefror 2010


 


Mynediad am ddim trwy docyn yn unig. Tocynnau ar gael drwy’r siop, ffôn neu archebwch eich tocynnau arlein.


 


Gwybodaeth bellach


Siôn Jobbins, Swyddfa’r Wasg LlGC: 01970 632 902  post@llgc.org.uk


 

Copyright © Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales 2006

Diweddarwyd: 22-10-2012