Cefnogwch ni i ddatblygu ein casgliadau a'n gwasanaethau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Iau, 25 Chw 10 14:23:00
Mae cyfres o ddigwyddiadau wedi eu trefnu ar gyfer dathlu dydd ein nawddsant ar 1 Mawrth. Dewch draw i fwynhau a gwneud y pethau bychain!
10:30 - Nest Jenkins yn canu’r delyn yng nghaffi Pen Dinas. Am ddim.
11:00- Taith dywys am ddim, yn cychwyn o’r Siop
12:15 - Aelodau o Gôr Pantycelyn yn canu yng nghaffi Pen Dinas. Am ddim.
13:15 - Cyflwyniad Awr Ginio: The Bardic Chair’ gan Richard Bebb yn y Drwm. Mynediad am ddim trwy docyn.
Cofiwch hefyd bydd cawl cennin a chynnyrch Cymreig yn siop y Llyfrgell. Bydd baner ddu a chroes felen Dewi Sant hefyd yn chwifio o ben adeilad y Llyfrgell ar y diwrnod.
Gwybodaeth bellach
Elin-Haf Williams, Swyddfa’r Wasg LlGC: 01970 632 534 post@llgc.org.uk