Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

The National Library of Wales

What's On?
Cefnogwch Ni

Cefnogwch Ni

Cefnogwch ni i ddatblygu ein casgliadau a'n gwasanaethau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Rhowch nawr!

Barod am y Ganrif nesa!

Llu, 18 Meh 07 13:08:00

A hithau hanner ffordd drwy ddathliadau ei chanmlwyddiant, mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn holi’r cyhoedd sut yr hoffent weld y sefydliad yn datblygu dros y 100 mlynedd nesa



Sefydlwyd Llyfrgell Genedlaethol Cymru ym mis Mawrth 1907. Ei swyddogaeth yw sicrhau fod gwybodaeth archifol, yn benodol am Gymru, ar gael i ymchwilwyr a dysgwyr o bob math. Dros y 100 mlynedd gyntaf gwelodd y Llyfrgell sawl newid mawr yn ogystal â chynnydd anferthol yn ei chasgliadau ac yn nifer y bobl sy’n defnyddio’r sefydliad. Ond heb os y newid mwyaf yw’r rhyngrwyd sydd wedi agor y Llyfrgell i gynulleidfa newydd byd-eang mewn ffordd na fodolai hyd yn oed 10 mlynedd yn ôl.



Hoffai’r Llyfrgell glywed barn pobl ar ei dyfodol, fel rhan o’i hadolygiad strategol. Sut gellir datgloi ei photensial? Sut dylid datblygu’r adeilad? Beth ddylai’r Llyfrgell ei chasglu? Sut gellir cyrraedd cynulleidfa newydd? Sut ddylai’r Llyfrgell ymateb i’r ‘rhyngrwyd newydd’?



Andrew Green, y Llyfrgellydd, yw pennaeth y Llyfrgell Genedlaethol, ac mae’n ymwybodol iawn o’r newidiadau mawr.



‘Rwy’n credu ei fod yn deg dweud fod y Llyfrgell, fel pob llyfrgell, wedi newid mwy dros y ddegawd ddiwethaf na thros y 90 mlynedd flaenorol. Rydym nawr yn llawer mwy ymwybodol o’n cyfrifoldeb i gymdeithas yn ei ehangder ac mae amrywiaeth y gymdeithas honno’n llawer mwy hefyd. Mae dyfodiad y rhyngrwyd yn golygu fod ein hymchwilwyr a’n defnyddwyr yn America neu Awstralia cyn bwysiced a’r rhai yn Aberystwyth neu Gymru. Edrychwn ymlaen at glywed sut hoffai’n defnyddwyr yng Nghymru ac yn fyd-eang, weld y Llyfrgell yn datblygu.’



Mae’r Llyfrgell yn awyddus i dderbyn ymateb i’w thaflen ymgynghori, Llunio’r Dyfodol, gan unigolion, grwpiau a chymdeithasau.



Dylid anfon awgrymiadau at:



Tîm Adolygu Strategaeth,
Llyfrgell Genedlaethol Cymru,
Aberystwyth,
SY23 3BU



ebost at llgc-strategaeth@llgc.org.uk



Gellir cael gafael ar y daflen neu ragor o wybodaeth ar dudaennau'r Adolygiad Strategaeth ar wefan y Llyfrgell.




Gwybodaeth Bellach:

Siôn Jobbins, Swyddfa’r Wasg LlGC: 01970 632 902  sij@llgc.org.uk


 

Copyright © Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales 2006

Diweddarwyd: 22-10-2012