Cefnogwch ni i ddatblygu ein casgliadau a'n gwasanaethau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Gwe, 05 Maw 10 14:35:00
Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn falch o gyhoeddi y bydd yn ailagor ar ddyddiau Sadwrn o ddydd Sadwrn 8 Mai 2010 ymlaen.
Gwnaed y penderfyniad gwreiddiol i gau yn wyneb pwysau i wneud arbedion ariannol mawr ar fyrder – ac fe fu’r adeilad ar gau ar y Sadyrnau ers 1 Ebrill 2009.
Cafwyd cefnogaeth eang gan y cyhoedd yn ystod y cyfnod y bu’r Llyfrgell ar gau. Llwyddwyd i ymateb i’r gefnogaeth honno, i geisiadau’r Llywodraeth a brwdfrydedd y Gweinidog Treftadaeth Alun Ffred Jones AC ac i ddyhead sylfaenol y Llyfrgell i wasanaethu pobl Cymru, trwy greu model sydd gryn dipyn yn rhatach sy’n caniatau i’r Llyfrgell ailagor.
Fodd bynnag mae hwn yn wasanaeth llawer mwy cyfyngedig.
O 8 Mai 2010 ymlaen bydd modd i’r cyhoedd wneud defnydd o’r casgliad a’r adeilad unwaith eto. Bydd y casgliadau ar gael o’r ddwy Ystafell Ddarllen a bydd yr arddangosfeydd, y siop, y bwyty a’r stafelloedd cyfarfod ar gael i’w mwynhau yn eu lleoliad gwych ar y bryn yn Aberystwyth.
Gan mai gwasanaeth cyfyng fydd ar y Sadwrn bydd rhaid i ddarllenwyr archebu eu deunydd ymlaen llaw ac ni fydd yr arlwy llawn arferol ym mwyty Pen Dinas.
Mae Llywydd y Llyfrgell, Dafydd Wigley, yn falch iawn o’r datblygiad.
‘Cafwyd llawer iawn o gefnogaeth gan y cyhoedd yn galw arnom i ail-ystyried ac ail-agor ac yn galw ar y Cynulliad i roi blaenoriaeth i gynnal cyllid y Llyfrgell.
‘Roedd ailagor yn flaenoriaeth gennym ac mewn cydweithrediad â Llywodraeth y Cynulliad, rydym wedi llwyddo i wneud arbedion ac ail-strwythuro fel ein bod bellach mewn sefyllfa i gynnig gwasanaeth i ddarllenwyr, twristiaid a phobl leol.
Bydd y Llyfrgell yn dosbarthu nodau llyfr arbennig i hysbysu’r cyhoedd o’r newyddion da. Os hoffai’ch Llyfrgell neu sefydliad chi nod llyfr, yna cysylltwch â’r Uned Hyrwyddo. Crewyd tudalen arbennig i hysbysu’r cyhoedd o’r gwasanaethau sydd ar gael ar ddydd Sadwrn ac awgrymir fod pobl yn cael cip arno cyn cychwyn ar eu siwrnai i Aberystwyth: www.llgc.org.uk/sadwrn
Meddai Andrew Green, Llyfrgellydd y Llyfrgell Genedlaethol,
‘Bu’r penderfyniad i gau ar ddydd Sadwrn am resymau economaidd yn un eithriadol o anodd i’r Llyfrgell Genedlaethol. Rydym yn edrych ymlaen i gynnig gwasanaeth a chroeso cynnes unwaith eto o 8 Mai 2010 ymlaen.’
Am wybodaeth bellach am Agor ar y Sadwrn ewch i'r wefan www.llgc.org.uk/sadwrn
Am nodau llyfr neu rhagor o wybodaeth, cysylltwch â
Siôn Jobbins, Uned Hyrwyddo LlGC: 01970 632 902 post@llgc.org.uk