Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

The National Library of Wales

What's On?
Cefnogwch Ni

Cefnogwch Ni

Cefnogwch ni i ddatblygu ein casgliadau a'n gwasanaethau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Rhowch nawr!

Maes y Gad Lles y Wlad

Iau, 11 Maw 10 14:38:00

Dydd Llun 22 Mawrth bydd rhai o 'stafelloedd amlycaf Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth yn cael eu trawsnewid i gydfynd â thema’r Ail Ryfel Byd fel rhan o gynllun Maes y Gad, Lles y Wlad (MYGLYW) a noddwyd gan Y Gronfa Loteri Fawr.

Meddai Ceri Doyle, Cyfarwyddwr y Gronfa Loteri Fawr yng Nghymru:

'Mae'r Gronfa Loteri Fawr yn falch o gefnogi prosiect sydd yn dod â  chenhedlaethau at ei gilydd er mwyn cyflwyno a chofnodi hanes byw Cymru.
Mae'n dda gweld pobl o bob rhan o Gymru yn dod i'r Llyfrgell Genedlaethol.'

Prif amcan prosiect MYGLYW yw datblygu dealltwriaeth pobl ifanc am fywyd trigolion Cymru yn ystod ac yn dilyn yr Ail Ryfel Byd (1939-1959).

Meddai Carys Mai Lloyd, Swyddog Prosiect MYGLYW:

‘Mae gweithgareddau’r prosiect wedi dod â phobl ifanc a chyn-filwyr a llygad dystion at ei gilydd mewn amryw o sefyllfaoedd. Y gobaith yw bod y gweithgareddau yma yn rhoi dealltwriaeth ehangach i bobl ifanc ac i’r genhedlaeth hyn am brofiadau’r naill genhedlaeth’

Ar 22 Mawrth bydd disgyblion o Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe, Abertawe ac Ysgol Dyffryn Ogwen, Bethesda yn cymryd rhan mewn gweithgareddau i gyd-fynd â thema’r Ail Ryfel Byd.

Byddant i gyd wedi eu gwisgo yn nillad y cyfnod ac yn profi’r adeg rhwng 1939 a 1959 gyda chymorth Stori Ddigidol a monolog, yn ogystal â chael y cyfle i holi Donald Parker o Benparcau am ei brofiad o fod yn faciwî.

Bydd y Glamorgan Home Guard Living History Group hefyd yn ail greu golygfa o fywyd yn ystod y Rhyfel ar goridorau’r Llyfrgell, ac i ddathlu diwedd y rhyfel bydd y disgyblion yn cael y cyfle i gael te parti i gyfeiliant cerddoriaeth o’r cyfnod.

I gloi’r diwrnod bydd y disgyblion i gyd yn cael eu cyflwyno gyda DVD a llyfr a gynhyrchwyd yn arbennig i gyd-fynd â’r prosiect i’w hatgoffa am eu profiad.

Mae’r prosiect yma yn cryfhau’r cysylltiad rhwng pobl ifanc, ysgolion a’r gymuned leol ac hefyd yn annog cymunedau a’r sector addysg i gydweithio er mwyn cofnodi, cyhoeddi a gwneud defnydd addysgiadol o ffynonellau ac archifau hanesyddol lleol, rhanbarthol a chenedlaethol.

Un o brif weithgareddau’r prosiect yw’r elfen Straeon Digidol, ble bu i ddisgyblion ysgolion uwchradd a phobl mewn oed ddod at ei gilydd i gyfrannu a dysgu mewn modd ymarferol, technegol, creadigol ac emosiynol i greu ffilm fer.  

Mae dros 50 o straeon digidol wedi eu creu ar y cyd rhwng cyn-filwyr, llygad-dystion a disgyblion ysgol sy’n rhoi blas i ni o fywyd yng Nghymru a thu hwnt rhwng 1939 a 1959.  Ffilmiau byr ydynt sy’n cyfuno llais (y person sy’n adrodd y stori) a llun (casgliad personol o ffotograffau, dogfennau a gwrthrychau).
Mae’r straeon digidol yma yn ymddangos ar wefan y prosiect.


 


Dolenni

  • Gwefan myglyw Gwefan sy’n cofnodi bywyd trigolion Cymru yn y cyfnod 1939-1959

 


Mwy o wybodaeth:

Elin Hâf Adran Hyrwyddo 01970 632 534 neu post@llgc.org.uk

Copyright © Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales 2006

Diweddarwyd: 22-10-2012