Cefnogwch ni i ddatblygu ein casgliadau a'n gwasanaethau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Maw, 27 Ebr 10 13:45:00
Bydd penderfyniad Llyfrgell Genedlaethol Cymru i ailagor ar y Sadwrn yn destun dathlu dwbl wrth i ymwelwyr hefyd gael y cyfle arbennig i weld un o luniau olew yr artist Pablo Picasso, Bywyd Llonydd gyda Poron.
Mae’r Llyfrgell Genedlaethol wedi bod ar gau i’r cyhoedd ers dros flwyddyn. Pa ffordd well felly o groesawu ymwelwyr a darllenwyr yn ôl i’r adeilad yn Aberystwyth na thrwy arddangos llun gan un o arlunwyr enwoca’r byd, y Catalanwr, Pablo Picasso?
Mae’r llun ar fenthyg gan Amgueddfa Cymru a’i prynodd ym mis Tachwedd 2009 - dyma’r llun olew cyntaf gan Picasso i’w ychwanegu i gasgliad yng Nghymru. Fe’i arddangosir yn oriel Hengwrt y Llyfrgell rhwng 8 Mai - 30 Awst 2010.
Mae Bywyd Llonydd gyda Poron (Nature Morte au Poron) yn un o 3 darlun bywyd llonydd a beintiwyd gan Picasso ar 26 Rhagfyr 1948 yn ei stiwdio yn y Rue des Grands Augustins, Paris. Fe’i prynwyd gyda chefnogaeth Ymddiriedolaeth Derek Williams (Cronfa Canmlwyddiant) a’r Gronfa Gelf. Yn y darlun mae cynhwysion ar gyfer pryd bwyd - lemwn, cimwch a ‘poron’ (‘poron’ yn Sbaeneg, math o botel win traddodiadol) - wedi eu gosod ar y bwrdd ac yn gwyro tuag at y ‘picture plane’ mewn modd ciwbaidd nodweddiadol.
Mae’r Llyfrgellydd, Andrew Green, yn falch iawn fod llun Picasso yn cael ei arddangos yn y Llyfrgell ar ddiwrnod cyntaf ailagor ar y Sadwrn.
‘Mae’r dangosiad cyntaf yn Aberystwyth o lun gan Picasso yn arwydd clir fod y Llyfrgell Genedlaethol ar agor i’r cyhoedd ac i ddarllenwyr ar y Sadwrn. Mae casgliadau ar gael i ddarllenwyr o’r Ystafelloedd darllen, ac mae’r arddangosfeydd, siop a chaffi y Llyfrgell a’r ystafelloedd cyfarfod hefyd ar agor yn yr adeilad hardd hwn gyda’i golygfa odidog o Aberystwyth,’ meddai.
Oherwydd natur gyfyngedig y gwasanaeth ar y Sadwrn, bydd rhaid i ddarllenwyr archebu casgliadau o flaen llaw ac ni fydd y ddarpariaeth lawn o fwyd ar gael chwaith yn Pen Dinas, caffi’r Llyfrgell. Gellir canfod rhagor o wybodaeth am y gwasanaeth ar y Sadwrn ar ein gwefan.
Yn ogystal â mwynhau llun Picasso, gall ymwelwyr hefyd fwynhau arddangosfeydd am ddim eraill y Llyfrgell. Maent yn cynnwys; Gwena - Portreadau’r o’r Cymry; Cam wrth Gam - cyflwyniad i gasgliadau hanes teulu yn y Llyfrgell ac arddangosfeydd llai gan yr arist Denys Short ac am y llenorion Cymreig, Brenda Chamberlain a Caradog Prichard.
Delwedd: Nature Morte au Poron, 1948
Credyd Hawlfraint: © Succession Picasso/DACS, London 2010
Gwybodaeth bellach
Siôn Jobbins, Swyddfa’r Wasg LlGC: 01970 632 902 post@llgc.org.uk
Nodyn i Olygyddion
“Press use is considered to be moderate use of images to report a current event or to illustrate a review and criticism of the work, as defined by the Copyright, Designs and Patents Act 1988 Chapter 48 Section 30 Subsections (1) - (3). Reproductions which comply with the above do not need to be licensed.
Reproductions for all non-press uses or for press uses where the above criteria do not apply (e.g. covers and feature articles) must be licensed before publication. Further information can be obtained at www.dacs.org.uk or by contacting DACS licensing on +44 207 336 8811.
Due to UK copyright law, only applying to UK publications - any articles or press uses which are published outside of the UK and wish to reproduce these images will need to have sort authorisation with the relevant copyright society of that country.”