Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

The National Library of Wales

What's On?
Cefnogwch Ni

Cefnogwch Ni

Cefnogwch ni i ddatblygu ein casgliadau a'n gwasanaethau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Rhowch nawr!

Mabinogi a Mudo yn Eisteddfod yr Urdd

Mer, 26 Mai 10 11:13:00

‘Gadael’ a ‘Dychwelyd’ fydd thema stondin Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Eisteddfod yr Urdd eleni. Gwelwn Lyfr Gwyn Rhydderch yn dychwelyd i’r ardal lle cafodd y llawysgrif ei chreu rhyw 650 o flynyddoedd yn ôl. Ochr yn ochr â hyn bydd y Llyfrgell yn rhoi sylw i hanes cyffrous yr arloeswyr o Ddyffryn Aeron â ymfudo i Ohio yn 1818.


 


Mae’r fersiwn ysgrifenedig gyflawn gynharaf o chwedlau'r Mabinogi sydd wedi goroesi yn Llyfr Gwyn Rhydderch ac fe’i cedwir yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth. Chwedlau’r Mabinogi yw trysor mwyaf rhyddiaith Cymru. Mae’r straeon yn llawn hanesion cyffrous am bethau fel hela, gwledda, rhyfela a charu, ac yn dal i apelio at bobl ifanc.


 


Cafodd llawysgrif Llyfr Gwyn Rhydderch ei chreu gan fynachod yn Ystrad Fflur tua’r flwyddyn 1350 ar gyfer Rhydderch ab Ieuan Llwyd o Barcrhydderch, Dyffryn Aeron. Roedd Rhydderch ab Ieuan Llwyd yn ddyn dylanwadol iawn ac yn un o ddisgynyddion yr Arglwydd Rhys, rheolwr Deheubarth. Cai ei ganmol am ei haelioni at feirdd, ac mae Iolo Goch yn cyfeirio at y ffaith ei fod yn edrych ymlaen at dderbyn croeso yng nghartref Rhydderch ab Ieuan Llwyd wrth deithio o Hendy-gwyn i Ystrad Fflur.


 


Bydd ffacsimili o’r Llyfr Gwyn yn cael ei arddangos yn stondin y Llyfrgell ar y maes, ynghŷd â gweithgareddau addysgol ac adnoddau sy’n esbonio’r cyswllt rhwng un o drysorau’r genedl a Pharcrhydderch sydd ar lan Afon Aeron.


 


Bydd y stondin hefyd yn rhoi sylw i bobl a adawodd yr ardal i fyw yn Unol Daleithiau’r America. Roedd trigolion Dyffryn Aeron hefyd ymhlith yr arloeswyr aeth ar daith helbulus ac anturus i ymsefydlu yn nhalaith Ohio. Gadawodd 6 theulu eu cartrefi a'u ffrindiau ym mhlwyf Cilcennin a dechrau ar eu taith uchelgeisiol tua 1 Ebrill 1818.


 


John Jones, Tirbach, tafarnwr Y Ship, Pennant oedd arweinydd y criw, ac mae eu hanes cyffrous o deithio i Lerpwl yn gyntaf, colli plentyn ar y môr, a theithio mewn wagenni a chychod fflat ar draws America yn cael ei adrodd drwy straeon digidol ar stondin y Llyfrgell ar y maes.


 


Yn ystod y blynyddoedd wedi 1818 mudodd miloedd o bobl o bob rhan o Geredigion a Chymru i ymuno gyda chriw John Jones yn Ohio.


 


Dolenni

 


Gwybodaeth Bellach


Cyril Evans, Swyddfa’r Wasg LlGC: 01970 632  565 post@llgc.org.uk


 

Copyright © Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales 2006

Diweddarwyd: 22-10-2012