Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

The National Library of Wales

What's On?
Cefnogwch Ni

Cefnogwch Ni

Cefnogwch ni i ddatblygu ein casgliadau a'n gwasanaethau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Rhowch nawr!

Lloyd George a Rhyddfrydiaeth Cymru

Iau, 17 Meh 10 16:45:00

 llywodraeth glymblaid, Rhyddfrydol a Cheidwadol yn Llundain a breuddwyd Cymru Fydd o Senedd i Gymru wedi ei sefydlu, gellid teimlo fod profiadau’r  gwladweinydd David Lloyd George yn rhai cyfoes iawn. Yn sicr, mae llyfr newydd Lloyd George and Welsh Liberalism gan un o aelodau staff Llyfrgell Genedlaethol Cymru, J. Graham Jones, yn taflu sawl cymhariaeth ddiddorol ar ddigwyddiadau heddiw ac ar fywyd a gyrfa’r gwleidydd a gollir yn aml gan gyhoeddiadau eraill.


 


Yn ei lyfr a lansir ar ddydd Sadwrn 26 Mehefin mae’r awdur, sy’n Bennaeth Archif Wleidyddol Gymreig y Llyfrgell Genedlaethol, yn taflu goleuni newydd ar un o’r Cymry mwyaf erioed. Lansir y llyfr yng nghwmni Ffion Hague, awdures The Pain and the Privilege (HarperPress) am y menywod ym mywydau’r gwleidydd.


 


Seiliwyd y llyfr sylweddol hwn yn gadarn ar archifau unigryw Lloyd George sydd yng ngofal y Llyfrgell Genedlaethol ac mae’n ail-asesu rhai o’r digwyddiadau canolog yn ei fywyd a’i yrfa wleidyddol.  Yn eu plith mae cychwyn pur ddramatig ei yrfa wleidyddol ym Mlaenau Ffestiniog ym mis Chwefror 1886, ei rôl o fewn mudiad Cymru Fydd, a ddaeth i ben mor ddisyfyd ym 1896, ei benodiad i swydd o fewn y Cabined yn Rhagfyr 1905, hanes paratoi ei gyllideb enwog ym 1909 a arweiniodd at argyfwng cyfansoddiadol anferthol, a’i gydberthynas gyda’r Swffragetiaid.


 


Ail-edrychir hefyd ar rai themâu o gyfnod diweddarach, yn eu plith ymgais ddramatig, egniol Lloyd George i adennill grym ym 1927-29, ei swyddogaeth yn ystod argyfwng cyfansoddiadol 1931, cynigion y ‘New Deal’ ym 1935, a’i gyfraniad at ddiswyddo’r Prif Weinidog Neville Chamberlain ym mis Mai 1940.  Mae ysgrifau eraill yn ystyried ei berthynas gyda rhai o’i gyfoeswyr gwleidyddol, perthynas a oedd yn aml yn sigledig.    


 


Bu’r Dr John Graham Jones, awdur y llyfr newydd hwn, yn astudio Lloyd George dros gyfnod o ddeng mlynedd ar hugain.  Defnyddiodd yn helaeth y prif archifau sy’n gysylltiedig â’r gwleidydd a’r ffynonellau craidd eraill a gedwir yn y Llyfrgell Genedlaethol, lle y bu’r awdur yn gweithio fel archifydd ers 1980. Ef ar hyn o bryd yw Pennaeth Archif Wleidyddol Cymru yn y Llyfrgell.


 


Darlith a Lansiad


2.00 dydd Sadwrn 26 Mehefin 2010


Darlith gan J. Graham Jones  - The Marriage of Lloyd George and Frances Stevenson


i’w ddilyn gan lansiad llyfr J. Graham Jones, Lloyd George and Welsh Liberalism


Drwm, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth


 


Mynediad am ddim trwy docyn


 


Lloyd George and Welsh Liberalism (Llyfrgell Genedlaethol Cymru, 2010)


ISBN:  978-1-86225-084-0


Pris:  £24.99


Prynu copi


 


Gwybodaeth Bellach:


Siôn Jobbins, Swyddfa’r Wasg LlGC: 01970 632902  post@llgc.org.uk


 


 

Copyright © Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales 2006

Diweddarwyd: 22-10-2012