Cefnogwch ni i ddatblygu ein casgliadau a'n gwasanaethau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Iau, 08 Gor 10 10:26:00
Mae cerdd a oedd ar ei hanner pan bu farw’r bardd Dylan Thomas yn America, wedi dod nôl i dir Cymru.
Elegy yw enw’r gerdd ac mae’n cychwyn gyda’r linell; ‘An old tormented man three quarters blind’. Mae’n rhan o gasgliad o farddoniaeth gan y bardd poblogaidd a fu farw yn 1953. Ceir hefyd yn y casgliad, restr faith o eiriau ar gyfer cerdd Poem on His Birthday, a gyhoeddwyd yn gyntaf yn World Review ym 1951. Fe brynodd y Llyfrgell hefyd gasgliad o gerddi cynnar iawn, megis y gerdd bwysig A Refusal to Mourn the Death by Fire of a Child in London (Jeff Towns Collection: Dylan Thomas Poetry and Prose Manuscripts).
Mae’r casgliadau yma’n ymuno ag archif sylweddol ac unigryw Llyfrgell Genedlaethol Cymru o waith y bardd Dylan Thomas. Ymysg y casgliad arbennig yma ceir map unigryw o bentref dychmygol Llareggub lle lleolir y ddrama radio fyd-enwog, Dan y Wenallt (Under Milk Wood).
Mae Llyfrgellydd y Llyfrgell Genedlaethol, Andrew Green, yn falch iawn y bydd rhan o gasgliad Dylan Thomas yn cael ei chadw yng Nghymru.
‘Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn cymryd ei rôl fel prif archifydd Cymru o ddifri. Mewn llinell hir iawn o feirdd sy’n ymestyn dros 1,500 mlynedd gan ganu’n y Gymraeg ac yna Saesneg, mae Dylan Thomas yn sefyll fel un o’n beirdd mwyaf enwog. Mae’r casgliad yma o’i waith yn rhoi cip-olwg i ni ar ei ddull o gyfansoddi yn ogystal â bod yn gasgliad unigryw o waith. Maent yn ychwanegiad pwysig a diddorol i’r casgliad cenedlaethol ac yn golygu fod gwaith un o feirdd amlycaf Cymru yn aros yng ngwlad ei febyd.’
Yn ogystal â gwaith gan Dylan Thomas, mae’r Llyfrgell Genedlaethol wedi sicrhau casgliad o lawysgrifau ychwanegol gan ac yn ymwneud â’r awdures Jan Morris. Mae’r casgliad yn cynnwys teipysgrifau o’i nofelau, ynghyd â drafft wedi ei gywiro gan y cyhoeddwr o’i hunangofiant Conundrum, yn ogystal â gohebiaeth, llyfrau nodiadau a deunydd printiedig. Bydd y casgliad yn cael eu hychwanegu at y Jan Morris Papers.
Gwybodaeth bellach a delweddau
Siôn Jobbins, Swyddfa’r Wasg LlGC: 01970 632 902 post@llgc.org.uk