Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

The National Library of Wales

What's On?
Cefnogwch Ni

Cefnogwch Ni

Cefnogwch ni i ddatblygu ein casgliadau a'n gwasanaethau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Rhowch nawr!

‘Boddhad Defnyddwyr yn Uchel’ yn LlGC

Iau, 19 Aws 10 14:33:00

Mae ymwelwyr a defnyddwyr Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth yn derbyn croeso cynnes a gwasanaeth rhagorol. Ac mae hynny’n swyddogol!



Daw’r asesiad yma mewn adroddiad gan yr East Midlands Quality Centre a gyflwynodd adroddiad safon Gwasanaeth Cwsmer Rhagorol i’r Llyfrgell yn ddiweddar.


 


Noda’r adroddiad;


 


‘Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn defnyddio egwyddorion Gwasanaeth Cwsmer Rhagorol ym mhob rhan o’r gwasanaethau mae’n cynnig. Mae gwrando ar ddefnyddwyr ac ymateb i’r hyn a ddywedant yn llunio’r gwasanaeth maent yn ei gynnig. Mae mynediad yn dda i ddefnyddwyr academaidd a bu’r croeso eang i’r penderfyniad diweddar i ailagor ar y Sadwrn. Mae adnoddau ar gyfer rhai ag anghenion arbennig yn dda, ac mae staff yn ymateb yn gyflym ac yn serchog i ymholiadau. Yn fwy na dim, cynigia’r Llyfrgell awyrgylch gyfeillgar a chroesawus ac mae’r staff, yng ngeiriau un defnyddiwr a holwyd yn barod i fynd ‘filltir ymhellach’.


 


Mae’r Llyfrgell Genedlaethol yn naturiol yn falch iawn i dderbyn adroddiad mor bositif. Aseswyd y Llyfrgell yn erbyn 57 criteria a chyrhaeddwyd cydymffurfiad llawn ymhob un, gyda rhai rhannau o wasanaeth cyhoeddus yn cyrraedd safon ‘cydymffurfiaeth uwch’.


 


‘Profa hyn fod y Llyfrgell yn anelu i drin pob ymwelydd a defnyddiwr gyda’r un faint o ofal a phroffesiynoldeb. Mae’r adroddiad hyn yn sicr yn help i roi’r Llyfrgell ymysg prif atyniadau twristiaeth ddiwylliannol y Llywodraeth ac yn rhoi Aberystwyth a Chymru ar y map,’ meddai Arwel Jones, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyhoeddus, Llyfrgell Genedlaethol Cymru.


 


Gwybodaeth Bellach


Siôn Jobbins, Swyddfa’r Wasg LlGC: 01970 632 902  post@llgc.org.uk


 


 


 

Copyright © Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales 2006

Diweddarwyd: 22-10-2012