Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

The National Library of Wales

What's On?
Cefnogwch Ni

Cefnogwch Ni

Cefnogwch ni i ddatblygu ein casgliadau a'n gwasanaethau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Rhowch nawr!

Clod Rhyngwladol i Gem y Llyfrgell

Mer, 27 Meh 07 12:32:00



Ar ddydd Gwener Mehefin 29 bydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn rhyddhau gêm gyfrifiadurol gyffrous o’r enw Antur Fawr Nanw. Nod y gêm yw helpu cymeriad o’r enw Nanw i chwilio am 7 o drysorau’r Llyfrgell sydd wedi cael eu cuddio gan ei ffrindiau drygionus, a’u dychwelyd yn ddiogel i’r Llyfrgellydd.



Y trysor cyntaf yw Llyfr Du Caerfyrddin, ac o ddod i hyd iddo a’i ddychwelyd bydd y bobl ifanc yn dysgu rhywbeth am y cynnwys cyn symud ymlaen at y trysor nesaf. Serch hynny, bydd yn rhaid goresgyn nifer o rwystrau cyn cael gafael ynddo, a pheidio oedi gormod gan fod y cloc yn tician ac amser yn brin!

 


O godi allweddi arbennig mae modd teithio drwy ddrysau caeedig, ond rhaid sicrhau bod yr allwedd y lliw cywir, ac mae codi llyfrau ar y ffordd yn ychwanegu pwyntiau bonws. Bydd Nanw yn teithio drwy’r Llyfrgell, y gerddi, i ogofau cudd, i’r traeth ac i gelloedd cyfrinachol Llyfrgell Genedlaethol Cymru wrth chwilio am eitemau. Mae’r chwaraewyr gorau a chyflymaf yn cael cyflwyno’u henwau i’r Tabl Sgôr Uchel.



I wneud pethau’n haws i bobl nad ydyn nhw’n gyfarwydd â gêmau fideo mae Nanw’n cynnig cyngor cudd. 



Dywed Owen Llywelyn, Uwch Swyddog Addysg Llyfrgell Genedlaethol Cymru:



“Mae’r gêm yn ffordd hwylus a bywiog o ddysgu am bwysigrwydd y Llyfr Du a’r trysorau eraill i Gymru, ac mae wedi derbyn canmoliaeth uchel gan ddatblygwyr gwe, athrawon ac addysgwyr eraill, ac yn bwysicach na neb, gan bobl ifanc sy’n mwynhau ei chwarae. Mae hefyd wedi bod yn boblogaidd gan bobl mewn gwledydd tramor sydd wedi ei chwarae, ac yn mynd i dderbyn sylw mawr drwy wefannau fel y 24 Hour Museum.”



Ddydd Gwener hefyd bydd y gêm yn cael ei henwi’n gêm yr wythnos gan wefan 24hourmuseum www.24hourmuseum.org.uk, a bydd eitem ar dudalen flaen Show me ar wefan 24hourmuseum www.show.me.uk fydd yn tynnu sylw at y gêm ei hun a’r trysorau sydd ynddi.





Manylion:



Owen Llywelyn 07813 795 096 neu 01970 632 528 owen.llywelyn@llgc.org.uk



Sion Jobbins 01970 632 902 sion.jobbins@llgc.org.uk



Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth, Ceredigion SY23 3BU





Cofiwch bod Nanw'n cynnig cyngor cudd defnyddiol i chi ar y tudalennau hyn:



addysg.llgc.org.uk/index.php  (Cymraeg)


addysg.llgc.org.uk/index.php (English)

Copyright © Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales 2006

Diweddarwyd: 22-10-2012