Cefnogwch ni i ddatblygu ein casgliadau a'n gwasanaethau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Maw, 26 Meh 07 14:24:00
Bydd gŵyl ffilm newydd yn cael ei chynnal yn Aberystwyth rhwng 25 a 28 Hydref 2007. Bydd Fflics – Clasuron Sgrin Cymru yn Ŵyl bedwar diwrnod yn dathlu hanes y sinema yng Nghymru a hefyd y Cymry ar y sgrin fawr: o’r arloeswyr cynnar hyd at ddiwedd y cyfnod nitrad.
Mae Fflics yn gynllun ar y cyd rhwng Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan y Celfyddydau Aberystwyth, a bydd yn cynnwys dros 30 o ffilmiau a gynhyrchwyd yn hanner cyntaf yr 20fed ganrif, gyda thrafodaethau, perfformiadau cerddorol byw a sawl digwyddiad arbennig. Mae’r uchafbwyntiau yn cynnwys dangosiad o’r ffilm adferedig ‘How Green Was My Valley’, premier fersiwn newydd o’r ‘Chwarelwr’, a dangosiad gala o ‘The Life Story of David Lloyd George’, a llawer, llawer mwy o glasuron o’r cyfnod.
Dywedodd Andrew Green, Llyfrgellydd, Llyfrgell Genedlaethol Cymru: ‘Bydd Fflics yn gyfle gwych i ddathlu cyfraniad Cymru i ddyddiau cynnar sinema, ac i weld y ffilmiau ar y sgrin fawr; eu priod le. Rydym yn hyderus y bydd yr Ŵyl yn apelio at ystod eang o bobl – o’r dilynwyr ffilm brwd i’r rhai sy’n mwynhau ffilmiau nas gwelir yn aml ar y sgrin fawr, i’r rhai sy’n awyddus i weld ochr hanesyddol ar Gymru yn hanner cynta’r ganrif. Bydd yn bedwar diwrnod hynod ddiddorol.
Mae Fflics yn gyfle i weld a thrafod clasuron nad ydynt fel arfer yn cael eu dangos, gan gynnwys:
How Green Was My Valley * Proud Valley * Silent Village * The Corn is Green * Jerry The Tyke * Blue Scar * Valley of Song * The Citadel * Fame is the Spur* Dead of Night * Y Chwarelwr * Run for your Money * The Rat * Shop at Sly Corner * Stars Look Down * Call of the Blood * The Life Story of David Lloyd George * Next of Kin * David * The Last Days of Dolwyn* The Life and Death of Colonel Blimp * a ffilimau byr gan Arthur Cheetham
Mae Gwefan yr Ŵyl nawr yn fyw, a bydd ychwanegiadau ati fel bydd y trefniadau yn cael eu cadarnhau. Mae Tocynnau Aur, fydd yn sicrhau mynediad i bob un digwyddiad ar werth, gyda chynnig arbennig i’r sawl sy’n archebu’n fuan. Am yr wybodaeth ddiweddaraf ewch i www.fflics.co.uk
Am ragor o fanylion am Ŵyl Fflics cysylltwch â:
Llinos Medi Jones: 01970 632 534 lmj@llgc.org.uk
Siôn Jobbins: 01970 632 902 sij@llgc.org.uk