Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

The National Library of Wales

What's On?
Cefnogwch Ni

Cefnogwch Ni

Cefnogwch ni i ddatblygu ein casgliadau a'n gwasanaethau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Rhowch nawr!

Copi o'r Llyfr Cyntaf a Argraffwyd yng Nghymru i’w gyflwyno i'r Pab Bened XVI

Gwe, 17 Med 10 13:56:00

Cyflwynir copi ffacsimili o Y Drych Cristianogawl, y llyfr Catholig a’r llyfr cyntaf i’w argraffu ar dir Cymru, i'r Pab Bened XVI yn Eglwys Gadeiriol Westminster yn Llundain ar ddydd Sadwrn 18 Medi 2010.

Argraffwyd y llyfr yn gyfrinachol gan Gatholigion Cymru yn 1586 mewn ogof ar benrhyn Rhiwledyn yn Llandudno, i ffwrdd o lygaid lluoedd y Goron Protestannaidd. Mae’r Drych Cristianogawl yn draethawd byr ar gariad at Dduw o safbwynt Catholig. Ysgrifennwyd y llyfr â llaw-ysgrifenedig a’u danfon o'r Eidal i Gymru. Er mwyn twyllo lluoedd y Frenhines Brotestannaidd, Elisabeth I, argraffwyd ar y llyfr ei fod wedi ei gyhoeddi yn Rouen yn Ffrainc a rhoddwyd y flwyddyn 1585.

Cynhyrchwyd y copi ffacsimili yma o'r llyfr gan Julian Thomas o Lyfrgell Genedlaethol Cymru. Mae Julian yn un o brif rwymwyr a gwneuthurwyr copïau ffacsimili ym Mhrydain a chaiff ei ddewis yn rheolaidd i greu copi rhwymedig cywrain o un o’r chwe llyfr yn rownd derfynol gwobr lyfrau’r Booker Prize. Comisiynwyd creu’r copi gan Joseph Kelly, Prif Weithredwr yr Universe Catholic Weekly. Cyflwynir y copi i’r Pab gan Esgob Edwin Regan o Wrecsam fel rhodd gan bobl Cymru yn ystod sesiwn Gymreig yn yr offeren yng Nghadeirlan Westminster ar fore Sadwrn 18 Medi 2010.


 


Mae gan Joseph Kelly, barch mawr at y Catholigion a gynhyrchodd Y Drych Cristianogawl.


 


‘Bu gen i ddiddordeb ers amser maith yn y Tad William Davies fel y cyhoeddwr Catholig cyntaf yng Nghymru. Roeddwn wastad yn gobeithio y gallwn ryw ddydd godi ymwybyddiaeth o’r Drych Cristianogawl ac mae’n anrhydedd mawr i mi allu gwneud hynny a gweld cyflwyno copi ffacsimili o’r llyfr i’r Pab.’



Credir yn wreiddiol i’r Drych Cristianogawl gael ei hysgrifennu gan Gruffydd Robert. Credir bellach mai’r offeiriad cenhadol a'r awdur yw Robert Gwyn (c.1540/50 - 1592/1604), brodor o Lanarmon ger Pwllheli. Pwnc y "Drych" yw dysgeidiaeth Eglwys Rufain am y Pedwar Peth Olaf, sef Angau, Dydd y Farn, Uffern a'r Nefoedd.

Dengys ffynonellau cyfoes i argraffu Rhiwledyn ddigwydd ar ddiwedd y flwyddyn 1586 a dechrau'r flwyddyn ganlynol ar dir oedd yn eiddo i'r uchelwr Catholig Robert Pue o Benrhyn Creuddyn. Chwaraeodd Pue ran amlwg yn y fenter ynghyd ag argraffydd o'r enw Roger Thackwell a chwe gwr arall, yn eu plith yr offeiriad William Davies a ferthyrwyd ym Miwmares rai blynyddoedd yn ddiweddarach. Y rhan gyntaf yn unig o'r testun a argraffwyd er bod bwriad yn ôl y rhagymadrodd i argraffu'r cyfan. Bu'n rhaid i'r fintai ffoi pan ddaeth newyddion am y gweithgareddau yn yr ogof i glyw'r awdurdodau.



Mesura’r llyfr ond pum modfedd a hanner gan bedair modfedd - yn ddigon twt i’w guddio a’i gario mewn poced. Mae’n cynnwys 180 tudalen mewn print Gothig Seisnig. Mae pedwar copi o’r llyfr wedi goroesi ond mae’r unig un cyflawn perffaith yn y Llyfrgell Genedlaethol.



‘Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn falch iawn i gyd-weithio â Joseph Kelly ar gynhyrchu copi ffacsimili o’r Drych Cristianogawl. Y Drych Cristianogawl yw un o drysorau mwyaf y genedl Gymreig ac rydym yn hynod falch y bydd y copi yn cael ei gyflwyno i’r Pab ar ei ymweliad a Phrydain,’ meddai Llyfrgellydd y Llyfrgell Genedlaethol, Andrew Green.


 


Gwybodaeth bellach


Siôn Jobbins, Swyddfa’r Wasg: 01970 632 902  post@llgc.org.uk


Tudalen gwefan LlGC am Y Drych Cristianogawl


 

Copyright © Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales 2006

Diweddarwyd: 22-10-2012