Cefnogwch ni i ddatblygu ein casgliadau a'n gwasanaethau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Gwe, 24 Med 10 11:51:00
Dydd Sul 26 Medi bydd 70 mlwyddiant marwolaeth W H Davies (1871 - 1940) awdur un o gwpledau enwoga’r iaith Saesneg ac awdur llyfr enwog The Autobiography of a Super-Tramp. I ddathlu’r digwyddiad, mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi rhoi arlein catalog o'r amrywiol archifau sy'n ymwneud â'r bardd o Gasnewydd.
Un o’i gerddi enwocaf yw ‘Leisure’, a ddefnyddiwyd i hysbysebu canolfannau gwyliau Centre Parcs, sy’n cychwyn
“What is this life if, full of care,
We have no time to stand and stare”
Gallwch nawr weld copi o’r gerdd hon yn llawysgrifen W H Davies ei hun, wedi dyddio 8fed o Fai 1914, ar wefan y Llyfrgell Genedlaethol.
Yma hefyd ceir tua 30 o gerddi eraill yn llawysgrifen W H Davies, rhai ohonynt sydd heb eu cyhoeddi, er enghraifft,. ‘A Boy’s Sorrow’ sy’n sôn am ymateb bachgen ifanc i’r amgylchiadau sy’n dilyn marwolaeth cymydog.
Pan yn 22 oed, teithiodd William Henry Davies i Efrog Newydd, gan gyrraedd yr Unol Daleithiau gyda dim ond ychydig o ddoleri yn ei boced. Wedi hynny dechreuodd fyw fel trempyn, bywyd a ddisgrifir ganddo yn ei hunangofiant Autobiography of a Super-Tramp (1908) - gan deithio miloedd o filltiroedd ar draws America yn cardota, ond hefyd yn gwneud gwaith achlysurol a theithio’n anghyfreithlon ar y trenau cludo nwyddau. Ar y ffordd i gloddfeydd aur yn y Klondike, cwympodd o dan drên gan dorri ei droed dde, ac yn dilyn hyn cafodd dorri ei goes i ffwrdd o dan y ben-glin.
Mae casgliad W H Davies y Llyfrgell yn cynnwys llawysgrifau o’i gerddi, toriadau o’r wasg a ffotograffau ohono. Ymhlith y cerddi mae; Cyfrol yn cynnwys copïau llawysgrif, c. 1916, o 15 o gerddi, rhai ohonynt yn debyg o fod heb eu cyhoeddi, a gyflwynwyd i James Guthrie i'w cyhoeddi gan y Pear Tree Press fel casgliad yn dwyn y teitl 'Quiet Streams; 10 o gerddi llawysgrif o’r enw ‘Heaven’, ‘The Mind’s Liberty’, ‘The Signs’, ‘The Moon’, ‘Rich Days’, ‘On the Mountain’, ‘The One Singer’, ‘A Strange Meeting’, ‘To My Thoughts’, a ‘Till I Went Out’; gydag un gerdd llawysgrif arall o’r enw ‘The Dumb World’.
Ceir 58 llythyr, 1905-1938, gan y bardd at ohebwyr amrywiol gan gynnwys y beirdd a’r beirniaid Terence Ian Fytton Armstrong ('John Gawsworth'), John Freeman, Harold Monro ac Edward Thomas. Mae'r llythyrau yn ymwneud yn bennaf â chyhoeddi gwaith W H Davies.
‘Mae’r cwpled o gerdd ‘Leisure’ gan W H Davies a’i lyfr The Autobiography of a Super-Tramp wedi sicrhau fod y bardd o Gasnewydd yn parhau i fyw ym meddyliau a chalonnau pobl 70 mlynedd wedi ei farwolaeth. Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn falch iawn i nodi ei ben-blwydd a rhoi ei catalog o'r casgliad ar ein gwefan. Golyga hyn y bydd yn haws i ddilynwyr W H Davies wybod beth sydd yn nghasgliad y Llyfrgell,’ meddai Andrew Green, Llyfrgellydd y Llyfrgell Genedlaethol.
Am grynodeb o holl lawysgrifau a llythyrau W H Davies sydd gennym yn y Llyfrgell ewch i dudalen newydd W H Davies ar ein gwefan.
Neu, cysylltwch â Siôn Jobbins, Swyddfa’r Wasg LlGC: 01970 632 902 post@llgc.org.uk