Cefnogwch ni i ddatblygu ein casgliadau a'n gwasanaethau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Mer, 29 Med 10 09:49:00
Yn Proud Valley mae Robeson yn chwarae rhan David Goliath, Americanwr Du sy'n cyrraedd Cymru ac yn ennill parch pobl Gwlad y Gân gyda’i ddawn cerddorol. Mae'n rhannu caledi eu bywydau, ac yn dod yn arwr dosbarth gweithiol gan ei fod yn helpu i wella eu hamodau gwaith. Mae'r dangosiad ffilm yn rhan o gyfres o weithgareddau dros ddau fis yn Wrecsam gan y Llyfrgell Genedlaethol.
Mae Robeson yn chwarae y math o arwr Affro-Americanaidd na welwyd erioed yn Hollywood. Un sy'n cyfuno uchelgais gwleidyddol ac artistig ac yn ennill edmygedd ar draws ffiniau hil a chenedl. Flynyddoedd yn ddiweddarach dywedodd Robeson mai o'i holl ffilmiau, Proud Valley oedd ei hoff un gan ei fod yn dangos gweithwyr mewn goleuni cadarnhaol.
Yn ystod y 1930au bu Robeson yn ymgyrchu yn ddiflino ar ran y glowyr Cymreig, a rhoddodd gyngherddau i godi arian ar gyfer dioddefwyr trychineb glofaol 1934 Gresffordd. Anghofiodd Robeson byth mo Gymru na Chymru Robeson. Yn y blynyddoedd caled pan wadodd llywodraeth America basbort iddo, roedd y Cymry ymhlith y grwpiau mwyaf lleisiol a gweithgar a fu’n ei gefnogi.
Ymhlith yr actorion Cymreig eraill sy’n ymddangos yn y ffilm mae Rachel Thomas, Charles Williams, Jack Jones a Clifford Evans ac mae eu perfformiadau yn rhoi awyrgylch o realiti i’r cynhyrchiad.
'Roeddem yn awyddus i ddangos ffilm gan yr Archif y byddai pobl yn mwynhau gweld a byddai hefyd yn berthnasol i’w profiad eu hunain,’ meddai Iwan Jenkins o Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru; ‘mae a Proud Valley yn cyd-fynd yn union a’r anghen hynny. Mae'n dangos bywyd yng Nghymru, fel yr bu gan genedlaethau lawer o bobl bu’n gweithio tan yn weddol ddiweddar, yn enwedig mewn ardaloedd glofaol, ac mae llais aruchel Paul Robeson yn cyfleu uchafbwyntiau a thrasiedi ar eu bywydau.'
Mae’r ffilm Proud Valley yn gychwyn ar gyfres o ddigwyddiadau yn Wrecsam gan y Llyfrgell:
7 Hydref - Ffilm: Proud Valley yn Sinema’r Odeon, 19:30
12 Hydref – Beth yw Llyfrgell Genedlaethol Cymru?, Ysgol Morgan Llwyd, 19:00
2 Tachwedd - Beth sy’n yr Atig? Dewch i weld gwefan newydd a dwedwch eich stori chi, www.casgliadywerincymru.co.uk , Llai, 10:00 - 16:00
11 Tachwedd – Noson Agored: Llywydd LlGC, Dafydd Wigley, yn arwain noson o sgyrsiau a chyflwyniadau, Guildhall Wrecsam, 18:30
11 Tachwedd – Yn dilyn y Noson Agored, Lansiad Arddangosfa ‘Hen Luniau o Wrecsam’ yn Llyfrgell Wrecsam 20:00
13 Tachwedd – Diwrnod Agored Hanes Teulu a Hanes Lleol, Coleg Iâl 10:00 – 15:00
Nodiadau i’r Golygydd
Dathlodd Llyfrgell Genedlaethol Cymru ei chanmlwyddiant yn 2007. Mae ei chasgliadau yn cynnwys:
Gwybodaeth Bellach
Siôn Jobbins, Swyddfa'r Wasg LlGC: 01970 632 902 post@llgc.org.uk
Rhestr o digwyddiadau LlGC yn Wrecsam