Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

The National Library of Wales

What's On?
Cefnogwch Ni

Cefnogwch Ni

Cefnogwch ni i ddatblygu ein casgliadau a'n gwasanaethau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Rhowch nawr!

Gŵyl Condry – Gŵyl Undydd o Sgwennu Natur a’r Awyr Agored

Maw, 12 Hyd 10 13:50:00

Ar 16 Hydref 2010 bydd rhai o sgwennwyr natur gorau Prydain ym Machynlleth. Byddant yno ar gyfer gŵyl undydd i ddathlu a chofio gwaith y naturiaethwr a sgwennwr Bill CondryAr 16 Hydref 2010 bydd rhai o sgwennwyr natur gorau Prydain ym Machynlleth. Byddant yno ar gyfer gŵyl undydd i ddathlu a chofio gwaith y naturiaethwr a sgwennwr Bill Condry. Mae’r siaradwyr yn amrywio o awduron megis John Fanshawe i Jack Grasse, Warden Gwirfoddol Parc Cenedlaethol Eryri.

Cefnogir yr ŵyl gan yr Academi a’r Llyfrgell Genedlaethol, cartref archif bersonol Bill Condry.

Mae’r rhai sydd yn cymryd rhan yn yr ŵyl mor amrywiol â’r tirlun a oedd mor annwyl gan Bill. Bydd Jack Grasse, Warden Gwirfoddol Parc Cenedlaethol Eryri yn trafod The Story of Cadair Idris a Planhigion Meddyginiaethol fydd yn cael sylw Bethan Wyn Jones, y botanegwraig, darlledwraig, cyfieithydd a’r awdur.  Beth am ddysgu mwy am Gymru Ian Niall a hynny wrth wrando ar Andrew McNeillie yn trafod Ian Niall’s Wales? Bydd y morwr a’r awdur Tristan Gooley yn trafod The Wonderful World of Natural Navigation.  Cadeirydd sesiwn y bore fydd yr awdur Jon Gower, gyda gohebydd gogleddol y Guardian, Martin Wainwright, yn cadeirio’r prynhawn.

Traddodir y Ddarlith Flynyddol er Cof am William Condry ar y thema William Condry, Nature Writer gan Jim Perrin, yr awdur a’r arbenigwr ar deithio.

‘Gwnaeth tirlun a phobl Cymru argraff ddofn ar Bill Condry fel y gwnaeth ei lyfrau a'i erthyglau ar ei filoedd o ddarllenwyr ffyddlon. Mae Gŵyl Condry felly yn ddathliad o waith Bill a hefyd o'r tirlun byw yma sydd mor wych ac mor frau. Mae Machynlleth, prifddinas hanesyddol Cymru, yng nghanol tirlun mor amrywiol yn lleoliad delfrydol ar gyfer y digwyddiad arbennig yma,’ meddai Andrew Green, Llyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Rhaglen yr ŵyl

Gellir archebu tocynnau arlein neu trwy siop Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth 01970 632 548

Gwybodaeth bellach:
Sara Branch, Llyfrgell Genedlaethol Cymru 01970 632 839

Siaradwyr
Professor Andrew McNeillie

Awdur, cyhoeddwr a golygydd. Andrew yw sylfaenydd y cylchgrawn llenyddol Archipelago, a roddodd yr ysbrydoliaeth iddo i sefydlu’r cwrs MA Writing, Nature and Place  a hefyd gwasgnod Clutag Press.
Graddiodd o Rydychen a fo oedd Golygydd Llenyddiaeth yr Oxford University Press cyn ymuno â Phrifysgol Caerwysg yn 2009. Mae ganddo ddau lyfr newydd, cofiant Once (2009) ynglyn a’i blentyndod a’i lencyndod – a chasgliad o gerddi In Mortal Memory.
Gwybodaeth bellach am Professor Andrew McNeillie


Jim Perrin
Ganed Jim Perrin, y dringwr creigiau ac awdur teithiol, yn 1947 ym Manceinion. Ond, mae cefndir Perrin yng Nghymru ac yma bu’n byw ers iddo fod yn 17 mlwydd oed. Cyn troi at ysgrifennu, bu’n gweithio fel bugail yng Nghwm Pennant.
Fel awdur, bu iddo gyfrannu llawer i nifer o bapurau newydd a chylchgronau dringo. Bu iddo ennill gwobr Boardman Tasker ddwywaith, yn gyntaf ar gyfer Menlove (1985) ei gofiant o John Menlove Edwards ac eto fel cyd enillydd (gyda Learning to Breathe, Andy Cave) am The Villain (2005), cofiant am Don Whilans.


Tristan Gooley 
Awdur a mordwywr yw Tristan Gooley.
Tristan yw awdur The Natural Navigator, un o unig lyfrau’r byd ar fordwyo naturiol.
Bu iddo ysgrifennu ar gyfer y New York Times, y BBC, cylchgrawn Geographical, y Financial Times a nifer arall o gyfnodolion. Mae Tristan wedi ymddangos ar nifer o raglenni teledu a radio yn y DU ac yn rhyngwladol gan gynnwys The Today Programme, Countryfile, Excess Baggage, Ramblings a Open Country.
Gwybodaeth bellach am Tristan Gooley


Jack Grasse
Warden Gwirfoddol Parc Cenedlaethol Eryri
Gwybodaeth bellach am Jack Grasse 


Jon Gower 
Mae Jon yn gynhyrchydd gyda Boomerang, un o gwmnïau teledu a radio mwyaf dynamic Cymru. Jon oedd gohebydd y Celfyddydau a’r Cyfryngau gyda’r BBC rhwng 2000 a 2006, ble cyflwynodd rhaglen gelfyddydol First Hand ar gyfer BBC Radio Wales.  Mae wedi ysgrifennu llyfrau am deithio a hanes teulu, gan gynnwys An Island Called Smith (Gomer, 2001). Mae Jon bellach yn gweithio ar gofiant beirniadol o’r actor Americanaidd Steve Buscemi ac mae o newydd gyhoeddi llyfr am ei dref enedigol, Llanelli ar gyfer cyfres Seren ‘Real Wales’.
Gwybodaeth bellach am Jon Gower


Bethan Wyn Jones
Darlithydd, colofnydd wythnosol yn y Daily Post Cymraeg, a Swyddog Addysg Cyfeillion Gwiwerod Cochion Môn. Mae gan Bethan lond silff o lyfrau i'w henw erbyn hyn : Bwrw Blwyddyn, Chwyn Joe Pye a Phincas Robin Goch, Y Doctor Dail, Y Wiwer Goch, a Blodau Gwyllt, ac mae ail gyfrol o Y Doctor Dail ar y gweill.
Gwybodaeth bellach am Bethan Wyn Jones


John Fanshawe
Ymgynghorydd Strategol Hŷn, BirdLife International.  Golygydd The Peregrine: The Hill of Summer & Diaries – the complete works of J A Baker (2010)


Nodiadau i Olygyddion:

Ganwyd William Moreton Condry (1918 - 1998) yn Birmingham, ond er pan yn ifanc roedd wedi gwirioni â byd natur Cymru. Yn gynnar yn ei yrfa roedd mewn cysylltiad â Ronald Llaciol, y West Wales Field Society a chanolfan y Field Studies Council yn Dale Fort. Roedd yn olygydd y cylchronnau Field Notes a Nature in Wales, ac ynghyd â'i wraig Penny, ymunodd â Phwyllgor y Barcud a oedd newydd ei sefydlu. Bu mewn cysylltiad am amser hir gyda'r Adarfa ar Enlli, ac yn 1969 cychwynnodd ar ei waith fel warden cyntaf gwarchodfa natur yr RSPB yn Ynys-hir ger Machynlleth. Yn ogystal â'i waith yn y maes roedd yn brysur yn darlithio, darlledu, mynychu pwyllgorau ac ysgrifennu.

Mae ei lyfrau, yn aml yn cynnwys ei ffotograffau ei hun, yn cynnwys Thoreau, The Birds of Cardiganshire, The Snowdonia National Park a The Natural History of Wales. Roedd yn cyfrannu'n gyson i gylchgronau megis Country Life ac yn fwyaf arbennig roedd yn adnabyddus am ei gyfraniadau i golofn Country Diary y Guardian rhwng 1957 ac 1998.

Trwy ei waith a'i ddiddordebau daeth i gysylltiad â Mary Richards, E.H.T. Bible ac R. S. Thomas.

Mae ei fywyd fel naturiaethwr a sgwennwr yn cael ei adlewyrchu yn ei archif bersonol, Papurau William Condry, sydd yn cael eu cadw yn y Llyfrgell Genedlaethol. O ddarllen y nodiadau, dyddiaduron, erthyglau a llythyrau yma ceir darlun o ddyn oedd â brwdfrydedd aruthrol ac ymroddiad llwyr i fyd natur.




 


 


 


 


 

Copyright © Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales 2006

Diweddarwyd: 22-10-2012