Cefnogwch ni i ddatblygu ein casgliadau a'n gwasanaethau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Mer, 10 Tac 10 15:29:00
Ar 11 Tachwedd 2010, bydd Llywydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Dafydd Wigley, yn arwain noson o sgyrsiau a chyflwyniadau yn y Guildhall yn Wrecsam. Mae’r digwyddiad yn goron ar gyfres o weithgareddau diweddar gan y Llyfrgell yn Wrecsam ar y cyd â Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a nifer o gyrff lleol.
Er bod y Llyfrgell wedi cynnal digwyddiadau blynyddol y tu allan i Aberystwyth yn y gorffennol, dyma’r ail dro i’r Llyfrgell drefnu cyfres o ddigwyddiadau dros gyfnod o 2 fis.
Meddai Andrew Green, Llyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru:
‘Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn eiddo i bobl Cymru oll ac mae’n hynod bwysig a chyffrous i ni deithio allan o Aberystwyth ac ymweld â phob cwr o Gymru. Rydym yn falch iawn o fod wedi dod i Wrecsam eleni - tref sydd ag iddi ran bwysig yn hanes Cymru.’
Yn ystod y noson bydd Gwasanaeth Addysg y Llyfrgell ac Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru yn rhoi cyflwyniad am eu gwaith gan ddangos detholiad o ffilmiau lleol. Yn ogystal, bydd Culturenet Cymru yn dangos peth o’r trysorau lleol â ddaethpwyd i’w gwaethdau a gynhaliwyd yn Llai, ble gofynnwyd i bobl yr ardal ‘Beth sy’n eich atig?’
Edrychwn ymlaen at berfformiad gan barti Merched Ysgol Morgan Llwyd, Wrecsam.
I gloi’r noson bydd agoriad a derbyniad arddangosfa Hen Luniau o Wrecsam yn Llyfrgell Wrecsam. Ceir darlun clir o fywyd cymunedol a diwylliannol Wrecsam a gogledd-ddwyrain Cymru yng nghasgliadau helaeth Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Mae’r deunydd ffotograffig, ynghyd ag effemera printiedig, yn creu darlun amlochrog o fywyd pob dydd yr ardal gan gynnwys trafnidiaeth, gwaith, hamdden, chwaraeon, cymeriadau ac adloniant.
Gwybodaeth Bellach:
Elin Hâf, Swyddfa’r Wasg LLGC 01970 632534 post@llgc.org.uk
www.llgc.org.uk/wrecsam10