Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

The National Library of Wales

What's On?
Cefnogwch Ni

Cefnogwch Ni

Cefnogwch ni i ddatblygu ein casgliadau a'n gwasanaethau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Rhowch nawr!

Y Bardd Cenedlaethol a Bardd y Frenhines yn dod i LlGC

Mer, 24 Tac 10 16:21:00

Bydd Bardd Cenedlaethol Cymru, Gillian Clarke a Bardd y Frenhines, Carol Ann Duffy, yn rhoi cyflwyniad prin yn y Llyfrgell Genedlaethol ar ddydd Sadwrn 27 Tachwedd 2010.

Mae’r ymweliad arbennig hon yn rhan o daith a drefnir gan yr Academi, sy’n ymweld â lleoliadau ledled Cymru. Wedi dwy flynedd yn y swydd, dyma’ch cyfle i glywed gwaith newydd gan y Bardd Cenedlaethol yn ogystal â pherfformiadau o’i chasgliad helaeth o gerddi.

Ar ôl dechrau gyda dau ddigwyddiad llwyddiannus yn Y Fenni a Skenfirth, aeth Gillian Clarke ymlaen i Fetws y Coed a Llanfair ym Muallt.  I orffen y daith, bydd y Bardd Cenedlaethol yn troi tua’r gorllewin gyda digwyddiadau yng Nghaerfyrddin, Aberystwyth ac Abertawe.

Nos Iau 25 Tachwedd, bydd Menna Elfyn yn ymuno â Gillian Clarke ar gyfer noson ddwyieithog yng Nghanolfan Halliwell, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, Caerfyrddin.  Mae Menna Elfyn yn fardd, dramodydd ac awdur.. Mae wedi cyhoeddi wyth cyfrol o farddoniaeth ac wedi ennill sawl gwobr gan Gyngor Celfyddydau Cymru a’r Eisteddfod Genedlaethol. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf bu’n teithio’r byd yn darllen ei barddoniaeth mewn amryw o wyliau llenyddol.  Erbyn hyn mae hi’n Gyfarwyddwr ar gwrs MA mewn ysgrifennu creadigol ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.

Yna ymlaen at Aberystwyth am ddarlleniad prynhawn Sadwrn 27 Tachwedd gyda bardd cenedlaethol arall, Carol Ann Duffy.  Dilynodd Carol Ann Duffy ôl troed Andrew Motion fel Bardd Llawryfog yn 2009.  Hi yw’r fenyw gyntaf yn y rôl.  Carol Ann Duffy yw un o’r beirdd mwyaf poblogaidd Prydain ac mae’n perfformio mewn digwyddiadau a gwyliau ledled y byd, yn ogystal â rhannu llwyfan gyda Gillian Clarke a beirdd blaenllaw eraill ar deithiau poblogaidd Poetry Live!.

I gloi’r daith, bydd Carol Ann Duffy yn gwmni i Gillian Clarke unwaith eto yng Nghanolfan Dylan Thomas, Abertawe nos Wener 10 Rhagfyr.

Mae Gillian Clarke wedi bod yn Fardd Cenedlaethol Cymru ers 2008. Mae disgyblion TGAU a Lefel A Saesneg mewn bron pob ysgol ym Mhrydain yn astudio ei barddoniaeth ac mae wedi perfformio ei gwaith o flaen cannoedd o filoedd o bobl ifainc yn sioeau Poetry Live! Noddir cynllun Bardd Cenedlaethol Cymru gan Gyngor Celfyddydau Cymru ac fe’i weinyddir gan yr Academi.

Ar ddechrau’r daith, dywedodd Gillian Clarke: “Dwi'n teithio bron bob wythnos fel rhan o’m gwaith fel bardd, ond 'taith' arbennig fydd hon.  Gwelaf fy hun fel trwbadŵr ar gefn ceffyl yn teithio hen lwybrau yn hytrach nag yn fy nghar ar yr A487.  Byddaf yn rhannu llwyfan â beirdd o fri, pedwar perfformiwr gwych sydd yn cynrychioli'r modd y mae barddoniaeth yn gallu cyffwrdd pobl yng Nghymru a thu hwnt, mewn ieithoedd gwahanol.  Rydym oll yn ffrindiau.”
 

Nodiadau i'r Golygydd:


Yr Academi

·    Yr Academi yw’r Asiantaeth Genedlaethol er Hyrwyddo Llenyddiaeth a Chymdeithas Llenorion Cymru. Sefydlwyd yr Academi Gymreig ym 1959 yn sgil trafodaethau rhwng Bobi Jones a Waldo Williams. Ym 1998 ymgymerodd y gymdeithas â maes llafur helaethach o lawer pan enillodd gytundeb Cyngor Celfyddydau Cymru i ddarparu Asiantaeth Lenyddiaeth Genedlaethol.
·    Mae’r Academi yn gweithio mewn partneriaeth â Chanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd yn Llanystumdwy. Cefnogir yr Academi yn ariannol gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Llywodraeth Cynulliad Cymru.
·     Mae’r Academi’n gyfrifol am drefnu gwobr Llyfr y Flwyddyn, digwyddiadau llenyddol (Maes C, cynadleddau, ciniawau, teithiau barddol, darlithoedd), ysgoloriaethau awduron, Sgwadiau Sgwennu’r Ifainc a chynlluniau nawdd amrywiol.
·    Mae’r Academi wedi ymuno â’r Urdd, Opera Cenedlaethol Cymru a sefydliadau eraill yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ble lleolir Canolfan Glyn Jones yr Academi.

Bardd Cenedlaethol Cymru

Sefydlwyd prosiect Bardd Cenedlaethol Cymru yn 2005 gan yr Academi – yr Asiantaeth Genedlaethol er Hyrwddyo Llenyddiaeth a Chymdeithas Llenorion Cymru. Cefnogir y prosiect gan Gyngor Celfyddydau Cymru.  Gwyneth Lewis oedd Bardd Cenedlaethol cyntaf Cymru yn 2005 ac fe’i olynwyd gan yr Athro Gwyn Thomas yn 2006.  Gillian Clarke yw’r trydydd Bardd Cenedlaethol.


Gwybodaeth bellach:


Sion Jobbins, 01970 632902 post@llgc.org.uk

Copyright © Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales 2006

Diweddarwyd: 22-10-2012