Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

The National Library of Wales

What's On?
Cefnogwch Ni

Cefnogwch Ni

Cefnogwch ni i ddatblygu ein casgliadau a'n gwasanaethau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Rhowch nawr!

Llwyddiant Olympaidd i Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru a Myfyrwyr Coleg Ceredigion.

Mer, 01 Rha 10 09:17:00

Mae project ffilm rhwng Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru a Coleg Ceredigion, Aberystwyth, wedi derbyn Marc Ysbrydoli’r Olympiad Diwylliannol. Mae’r wobr arbennig yma yn adnabod projectau eithriadol ac arloesol sydd wedi’u ysbrydoli gan Gemau Llundain 2012.

Bydd myfyrwyr BTEC mewn astudiaethau’r cyfryngau Coleg Ceredigion, yn edrych ar ddeunydd o gasgliad ffilmiau amatur yr Archif. Yna, bydd y myfyrwyr yn defnyddio offer proffesiynol i greu cyfres o ffilmiau byr a elwir yn Bywyd Gwerthfawr.

Anwen Pari Jones, Swyddog Datblygu a Rheoli Mynediad yn yr Archif a Sophia Behraki, golygydd ffilm a tiwtor cyfryngau yng Ngholeg Ceredigion sy’n gyfrifol am y project yma. Mae’r project wedi derbyn y Marc Ysbrydoli am ei fod wedi’i ysbrydoli gan werthoedd gemau Olympaidd Llundain 2012. Bydd Bywyd Gwerthfawr yn ysbrydoli rhai i gofio’r gorffennol ac yn datblygu creadigrwydd y myfyrwyr.

Dywedodd Anwen Pari Jones:
“Mae derbyn y Marc Ysbrydoli am y project yma yn anrhydedd mawr i ni. Mae’r project yn un gwych, a bydd yn cyflwyno’r myfyrwyr i ffilmiau archif. Mae ein casgliad yma i bawb ei ddefnyddio a gwneud deunydd ohono. Gobeithio bydd y project yma yn ysgogi eraill i wneud deunydd o’r casgliad.”

Dywedodd Sophia Behraki:
“Croesawyd ni i drafod syniadau gan yr Archif. Diolch i’r Archif, bydd y myfyrwyr yn cael profiad o weithio yn y diwydiant, yn gweithio â client ac yn creu ffilm ar gyfer cynulleidfa ‘go iawn’.”


 


Nodiadau

Mae Coleg Ceredigion yn cynnig cwrs Diploma BTEC mewn Cyfryngau Creadigol fel cwrs blwyddyn neu dwy flynedd ac yn ystyried ceisiadau ar hyn o bryd. Dylai unrhyw un sydd â diddordeb gysylltu â’r Coleg ar 01970 639 700 neu www.ceredigion.ac.uk neu ebostio enquiries@ceredigion.ac.uk

Mae Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru wedi’i leoli yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth. Mae casgliad enfawr yr Archif yn cynnwys dros 5.5 miliwn troedfedd o ffilm, 250,000 awr o fideo a 200,000 o recordiadau sian. Mae’r cyfan yn ymwneud â Chymru a phethau Cymreig.

Bydd y ffilmiau a fydd yn cael eu creu gan y myfyrwyr yn cael eu dangos yn y Drwm, Llyfrgell Genedlaethol Cymru am 1:15pm ar ddydd Llun, 7 Mawrth 2011. Mae tocynnau ar gyfer y dangosiad i’w cael trwy gysylltu â’r Llyfrgell.

Manylion Cyswllt


Anwen Pari Jones, Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru 01970 632535


Sophia Behraki, Coleg Ceredigion 01970 639700


 

Copyright © Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales 2006

Diweddarwyd: 22-10-2012