Cefnogwch ni i ddatblygu ein casgliadau a'n gwasanaethau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Iau, 16 Rha 10 09:29:00
Rysetiau, gloddesta, atgofion Nadolig o’r 1930au, gwydd lwcus Pencaenewydd, hen gardiau Nadolig ... a ffordd effeithiol o ddanfon rhai eleni! Dyna beth o’r postiadau difyr a sgwennir yn Gymraeg a Saesneg gan staff y Llyfrgell ar ein blog.
I’r rheini syss ddim yn siwr sut mae coginio’r Pwdin Nadolig perffaith ... neu am droi llaw at hen rysaint, Jane Griffith o Ystâd y Garn yn Sir Ddinbych, sy’n ddigon i dynnu dŵr i’ch dannedd, dyma'r lle i chi. Ac wedi i chi lenwi’ch bol â bwyd a diod, mae gan Jane gyngor digon call a di-flewyn ar dafod i’r rheini sydd am feddwi, ‘Take before you drink 12 spoonfuls of betony water & after that drink as much as you please. Try’d. But make no practis of this sin.’
Rydym yn siŵr y gallai gair i gall yr hen Jane fod wedi bod yn ddefnyddiol i breswylwyr a gwesteion Tŷ Tredegar ger Casnewydd wrth iddynt fynd i hwyl yr ŵyl! Bu’n draddodiad trwy gydol y blynyddoedd i ddathlu’r Nadolig gyda brwdfrydedd yn Nhŷ Tredegar. Mewn llythyr at ei gŵr o Lundain, dyddiedig 7 Ionawr 1688 (y diwrnod wedi’r Ystwyll) mae’r Fonesig Mary Kemeys yn ei geryddu am beidio ag ysgrifennu ati, ond yn atal cerydd pellach (â’i thafod yn ei boch efallai), “not knowing wheather ye sober or ye ffair company at Tredegar have ended there Christmas yett”.
Caiff pob math o fwyd ei fwyta dros y Nadolig gan gynnwys gŵydd. Ond mae ffotograff hyfryd o Bencaenewydd ger Pwllheli yn 1959 yn adrodd hanes gŵydd a fu byw i weld y Calan!
Mae’r bachgen ifanc yn y ffoto yn edrych cyd-hapused ag Eirlys Evans wrth iddi gofio derbyn doli Tsieina wen yn anrheg Nadolig yn 1930. Yn anffodus torrwyd calon Eirlys fach wrth i’r ddoli gwympo ar y llawr pan redodd i’r drws i’w ddangos i’r postmon. Cewch chi’r hanesyn teimladwy yma ac atgofion o’r Rhyfel mewn stori ddigidol Gymraeg a recordiwyd gan ddisgyblion Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe
Mae cardiau Nadolig Cymraeg wedi dod yn boblogaidd iawn dros y ddegawd ddiwethaf neu fwy. Ond mae i’r cardiau Cymraeg hanes dros ganrif oed. Ac os nad ydych eto wedi rhoi pin i bapur a danfon eich cardiau, byddai’n werth i chi gymryd dau funud a darllen cyngor ein staff ar sut mae cael trefn ‘rheoli main’ ysgrifennu cardiau Nadolig yn fwyaf effeithiol!
Nadolig Llawen!
Blog LlGC (Cymraeg)
Blog LlGC (Saesneg)
Am wybodaeth bellach:
Siôn Jobbins, Swyddfa’r Wasg LlGC: 01970 632 902 post@llgc.org.uk