Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

The National Library of Wales

What's On?
Cefnogwch Ni

Cefnogwch Ni

Cefnogwch ni i ddatblygu ein casgliadau a'n gwasanaethau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Rhowch nawr!

Cyflwyniad i’r llyfr ‘A Cook’s Year in a Welsh Farmhouse’

Mer, 20 Ebr 11 16:32:00

Yr awdur bwyd arobryn a’r newyddiadurwraig a’r ddarlledwraig lleol Elisabeth Luard fydd y siaradwraig wadd mewn noson arbennig a drefnwyd gan Penodau, cynllun noddwyr Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Fe fydd Elisabeth yn trafod ei chyfrol newydd o’r enw  ‘A Cook’s Year in a Welsh Farmhouse’ yn y Drwm nos Wener, 6 Mai am 7.30pm.

Mae’r llyfr a gyhoeddir gan Bloomsbury wedi ei ysbrydoli gan y tirwedd arbennig sy’n amgylchynu cartref Elisabeth, sef hen dŷ fferm ger Tyn y Graig, Ystrad Meurig sy’n dyddio o’r ddeunawfed ganrif. Mae’n crynhoi ei hymateb personol i’r newidiadau tymhorol a wêl yn ei gardd ac yn gyffredinol yng nghefn gwlad gyda throad y tymhorau. Rhennir y penodau fesul mis, gyda phob un yn cynnwys casgliad arbennig o ryseitiau tymhorol a myfyrdodau personol yr awdur. Ceir hanes blwyddyn wedi ei dreulio yn yr ardd, yn crwydro’r ardal leol yng nghwmni ei hwyrion a’r pleser a gaiff o gyflwyno rhyfeddod cefn gwlad iddynt.

Mae coginio Elisabeth wedi’i wreiddio’n ddwfn yn niwylliant Môr y Canoldir ble bu’n byw ar un adeg ac wedi ei ysbrydoli hefyd gan ryseitiau traddodiadol Cymreig. Creda’n gryf yn y defnydd o gig lleol yn ei seigiau ac mae’n chwilota’n gyson am gynhwysion parod yn ei chynefin ar gyfer pethau fel cawl yn defnyddio danadl poethion a diodydd o flodau’r ysgawen.

Gwelwyd cydweithio artistig ar gyfer y gyfrol newydd rhwng Elisabeth a’r artist a’r ffotograffydd Clare Richardson sy’n byw ac yn gweithio yn Sir Gaerfyrddin. Mae pob pennod yn cynnwys lluniau lliw gan Clare a darluniau dyfrlliw o waith Elisabeth ei hun sy’n ymgorffori bywyd yng nghefn gwlad Cymru.

I archebu tocyn ar gyfer ‘A Cook’s Year in a Welsh Farmhouse’ cysylltwch â Siop y Llyfrgell ar (01970) 632548 neu gallwch archebu ar lein

Manylion Cyswllt:

Rhian Haf Evans
Swyddog Codi Arian: Digwyddiadau a Chyfranwyr
01970 632 938
rhian.evans@llgc.org.uk 



    




    




    



 


            


 


    

Copyright © Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales 2006

Diweddarwyd: 22-10-2012