Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

The National Library of Wales

What's On?
Cefnogwch Ni

Cefnogwch Ni

Cefnogwch ni i ddatblygu ein casgliadau a'n gwasanaethau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Rhowch nawr!

Penodi Llywydd ac un Ymddiriedolwr Newydd i’r Llyfrgell Genedlaethol.

Llu, 27 Meh 11 11:39:00

Bydd Llywydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru, yr Arglwydd Dafydd Wigley, yn rhoi gorau i’w swydd ymhen y misoedd nesaf. Daw hyn wedi pedair blynedd o wasanaeth diflino i un o brif sefydliadau Cymru.

Mae Llywodraeth Cymru (fydd yn apwyntio’r Llywydd newydd) yn chwilio am unigolyn ymroddedig, brwdfrydig a chryf ei gymhelliant a all gyfrannu at y gwaith parhaus o gryfhau a datblygu Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Byddai disgwyl i’r deilydd fod â diddordeb gwirioneddol ym materion y Llyfrgell a’i chynulleidfaoedd a dealltwriaeth o gyfrifoldebau Ymddiriedolaeth.

Manylion Swydd:

Am ragor  o wybodaeth am y swydd ewch i wefan Llywodraeth Cymru.

Am wybodaeth Bellach:

Siôn Jobbins, Swyddfa’r Wasg LlGC: 01970 632902  post@llgc.org.uk




Copyright © Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales 2006

Diweddarwyd: 22-10-2012