Cefnogwch ni i ddatblygu ein casgliadau a'n gwasanaethau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Iau, 08 Med 11 08:51:00
Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn awyddus i ganfod hanes tair merch ifanc o Sir Drefaldwyn a ymddangosodd mewn ffotograff o’r 1960au.
Tynnwyd llun Jane Brandrich, Nerys Jones a Daphne Black mewn gwisg Gymreig ar ddiwrnod glawog yn 1965 gan y ffotograffydd enwog, Geoff Charles. Defnyddir y darlun hyfryd gan y Llyfrgell Genedlaethol yn ei gwaith marchnata ar gyfer eu digwyddiadau Estyn Allan yn y Drenewydd ym misoedd Hydref a Thachwedd. (gweler y ffoto isod)
Hoffai Nia Lewis o Uned Hyrwyddo’r Llyfrgell wybod mwy am y merched a’u gwahodd i rai o’r digwyddiadau a drefnir gan y Llyfrgell yn y Drenewydd.
‘Bob blwyddyn mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn gadael Aberystwyth ac yn trefnu cyfres o ddigwyddiadau mewn tref arall. Y llynedd buom ni yn Wrecsam, eleni, y Drenewydd yw’r dref wadd. Pan ddaethom ar draws y llun annwyl yma o Jane, Nerys a Daphne roedd yn amlwg mai dyma oedd y ddelwedd i’r ddefnyddio ar gyfer ein hymweliad â’r Drenewydd. Hoffem ni gwrdd â’r ‘merched’ ac efallai trefnu i dynnu ffoto newydd ohonynt. Ond y tro yma bydd dim rhaid iddynt wisgo’r wisg draddodiadol!’ meddai Nia, sy’n byw ym Machynlleth.
Esboniodd William Troughton, pennaeth ffotograffau’r Llyfrgell ychydig am hanes y ffotograffydd, Geoff Charles
‘Cyflwynodd Geoff Charles ei gasgliad anferth o 120,000 delwedd i’r Llyfrgell dros ddegawd yn ôl. Roedd yn tynnu ffotos rhwng yr 1930au ac 1969 gan fwyaf o ardal y Gororau ar gyfer papurau megis y County Times ond hefyd o ddigwyddiadau o bwys cenedlaethol ar gyfer Y Cymro,’ meddai Wil, sydd hefyd yn gyfrifol am guradu arddangosfa o waith y ffotograffydd J.B. Willians yn Ysgol Uwchradd y Drenewydd.
Mae’r Llyfrgell Genedlaethol wedi trefnu cyfres o ddigwyddiadau yn y Drenewydd fel rhan o’u hymgyrch i hysbysu’r cyhoedd o’u gwaith. Gan fod cynifer o drigolion y dref yn teithio i Aberystwyth y gobaith yw y bydd nifer ohonynt nawr yn ymweld ag adeilad ac arddangosfeydd ysblennydd y Llyfrgell (sydd am ddim) neu’n dod yno i wneud gwaith ymchwil ar hanes teulu neu unrhyw bwnc arall.
Digwyddiadau a Drefnir gan y Llyfrgell yn y Drenewydd:
10 Hydref – 19 Tachwedd
‘Hen Drenewydd’ / ‘Old Newtown’
Theatr Hafren
10 – 21 Hydref
Ffotos o Sir Drefaldwyn, 1900-1910 gan J.B. Willans
Ysgol Uwchradd y Drenewydd
15 Hydref
Ffair Hanes Teulu a Hanes Lleol
The Monty Club
20 Hydref
Ffilm The Last Days of Dolwyn (1948)
Sinema’r Regent, 7.30pm
10 Tachwedd
Noson y Llywydd
Elephant and Castle
Gwybodaeth Bellach:
Nia Lewis, Swyddfa’r Wasg LlGC: 01970 632534 post@llgc.org.uk
