Cefnogwch ni i ddatblygu ein casgliadau a'n gwasanaethau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Iau, 12 Gor 07 12:44:00
Lansir llyfr am Huw T Edwards, un o Gymry mwyaf dylanwadol y ganrif ddiwethaf, yn y Llyfrgell nos Wener 13 Gorffennaf.
Yng nghanol yr holl drafod am glymbleidio coch a gwyrdd ym Mae Caerdydd, caiff cyfrol newydd yn nodi cyfraniad arloesol y gwleidydd a wnaeth sefydlu’r Cynulliad yn bosib ei lansio yn y Llyfrgell. Roedd Huw T Edwards yn wleidydd a fu’n rhan o ymgyrchoedd Plaid Cymru a’r Blaid Lafur yn ystod ei oes, ac yn un a gafodd ei adnabod fel ‘Prif Weinidog Answyddogol Cymru’.
Disgrifiwyd Huw T fel ‘the complete Welshman’, ‘the truly representative Welshman’, a ‘Chymro mwyaf cyffrous ei ddydd’, Treuliodd rhan fawr o’i fywyd yn ymgyrchu dros Senedd i Gymru. Yn ôl Gwyn Jenkins, awdur y gyfrol 'Prif Weinidog Answyddogol Cymru' ‘Roedd cyfraniad Huw T i ddatblygiad Cymru fel cenedl yn yr 20fed ganrif yn eithriadol o bwysig, a thra gwahanol fyddai’r broses o ddatganoli oni bai am ei gyfraniad ef.’
Yn niwedd yr 1940au penodwyd Huw T yn gadeirydd ar Gyngor Cymru – corff diddannedd a sefydlwyd gan y Blaid Lafur. Ymgyrchodd yn ddygn o hynny ymlaen dros Senedd i Gymru gan geisio uno’r pleidiau dros achos datganoli. Yn 1959, mewn rhwystredigaeth gydag agwedd y Blaid Lafur dros ddatganoli ymunodd â Phlaid Cymru, cyn mynd yn ôl at Lafur yn 1964.
Yn ôl Gwyn Jenkins: ‘Roedd ei ymlyniad at iaith a diwylliant ei genedl yn ddi-ball … ac er yn sosialydd o argyhoeddiad ac yn genedlgarwr pybyr, roedd yn ddigon eangfrydig i fanteisio ar bob cyfle i gydweithio’n adeiladol ar ran y genedl.’
Cyhoeddir y gyfrol 'Prif Weinidog Answyddogol Cymru: Cofiant Huw T Edwards' gan Y Lolfa ar nos Wener 13 o Orffennaf yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru am 5.30. Daw’r awdur Gwyn Jenkins o Benparcau, Aberystwyth, ond mae bellach yn byw yn Nhal-y-bont. Ef yw Cyfarwyddwr Gwasanaethau Casgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac ef oedd golygydd y gyfrol, Llyfr y Ganrif a gyhoeddwyd ar y cyd rhwng y Llyfrgell a’r Lolfa.
Gellir prynu’r llyfr o siop y Llyfrgell yn Aberystwyth neu ffoniwch +44 (0) 1970 632 548 neu ebostiwch hns@llgc.org.uk
'Prif Weinidog Answyddogol Cymru: Cofiant Huw T Edwards' £14.95 Gwyn Jenkins
Gwybodaeth Bellach:
Gwyn Jenkins: 01970 832 560 gwyn.jenkins@llgc.org.uk
Siôn Jobbins, Swyddfa'r wasg: 01970 632 902 sij@llgc.org.uk