Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

The National Library of Wales

What's On?
Cefnogwch Ni

Cefnogwch Ni

Cefnogwch ni i ddatblygu ein casgliadau a'n gwasanaethau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Rhowch nawr!

Iechyd Da yn Bwysig i’r Llyfrgell

Maw, 25 Hyd 11 11:54:00

Ar 2 Tachwedd 2011 bydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn cynnal ei thrydedd diwrnod Iechyd a Lles ac yn lansio holiadur straen arlein i staff y sefydliad.  Trefnir y diwrnod gan Fforwm Iechyd a Lles y Llyfrgell, mae’r digwyddiad eleni yn cyd-redeg â Ddiwrnod Prydeinig Codi Ymwybyddiaeth Straen www.isma.org.uk/national-stress-awareness-day/ .

Yn ystod y dydd bydd cynhelir gweithgareddau amrywiol ar hyd yr adeilad:

•    ceïr stondinau amrywiol yn ymwneud â materion iechyd a lles yn yr Ystafell Addysg gyda arbenigwyr yno i gynghori staff neu ymwelwyr

•    bydd Caffi Pen Dinas yn hyrwyddo Bwydydd Iach i’r Staff ac Ymwelwyr i’r Llyfrgell

•    bydd cyfle i staff ddarganfod eu pwysau gwaed

•    cynhelir cyflwyniad am ddim ac yn agored i bawb gyda Money Advice Service www.moneyadviceservice.org.uk  yn y Drwm am 11.00 a.m.  


Cadeirydd Fforwm Iechyd a Lles y Llyfrgell yw Annwen Isaac.

‘Bydd hyn yn gyfle gwych i’r staff i gael gwybodaeth yn y gweithle am faterion yn ymwneud ag iechyd a lles. Mae hyn yn gam pwysig i’r cyfeiriad cywir ac yn dangos fod y Llyfrgell yn cymryd iechyd  a lles ei gweithwyr o ddifrif,’ meddai.  

‘Mae Iechyd a Lles yn y gweithle yn uchel ar agenda Llywodraeth Cymru hefyd. Yn ystod y flwyddyn nesaf, byddwn yn gweithio tuag at Safon Iechyd Gorfforaethol, a drefnir gan Lywodraeth Cymru, sef y marc ansawdd ar gyfer hyrwyddo iechyd yn y gweithle yng Nghymru. Ein nod yw cyrraedd Safon Efydd erbyn Ebrill 2012.  


Dolenni:
Diwrod Ymwybyddiaeth Straen www.isma.org.uk/national-stress-awareness-day/ 
Bwyty Pen Dinas www.llgc.org.uk/index.php;




Gwybodaeth Bellach:
Annwen Isaac, Uned Adnoddau Dynol LlGC: 01970 632577 cai@llgc.org.uk


Copyright © Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales 2006

Diweddarwyd: 22-10-2012