Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

The National Library of Wales

What's On?
Cefnogwch Ni

Cefnogwch Ni

Cefnogwch ni i ddatblygu ein casgliadau a'n gwasanaethau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Rhowch nawr!

‘Augustus John: A Personal Reminiscence’

Llu, 21 Tac 11 14:09:00

Y cyfarwyddwr teledu nodedig Tristan de Vere Cole fydd y siaradwr gwadd mewn noson arbennig a drefnir dan fantell Penodau www.llgc.org.uk/index.php , cynllun noddwyr Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Cynhelir y cyflwyniad sy’n dwyn y teitl ‘Augustus John: A Personal Reminiscence’ yn y Drwm ar ddydd Iau, 24 Tachwedd am 7.30yh. drwm.llgc.org.uk/cgi-bin/go.pl/show_event.html;

Ganwyd Augustus John (1878-1961) yn Ninbych y Pysgod, Sir Benfro, a threfnwyd y digwyddiad Penodau hwn i nodi 50 mlynedd ers ei farwolaeth.
Cyfrifir John ymhlith artistiaid gorau ei gyfnod ac roedd yn adnabyddus yn nechrau’r 20fed ganrif am ei luniadau a’i ysgythriadau.  Serch hynny treuliodd ran helaeth o’i yrfa’n ddiweddarach yn creu portreadau a pheintiodd nifer o’i gyfoeswyr enwog megis T E Lawrence, Thomas Hardy a W B Yeats.
Treuliodd Tristan y rhan helaethaf o’i blentyndod yn Fryern Court, Fordingbridge ac fe wnaed sawl llun ohono gan yr artist.  Bydd yn cyflwyno ei ddehongliad personol ef o fywyd a gwaith Augustus John mewn sgwrs fydd yn cynnwys sleidiau o baentiadau, lluniadau, ysgythriadau, cerfluniau a ffotograffau John, nifer ohonynt yn dod o gasgliad preifat Tristan ei hun.
Ganwyd Tristan yn Redruth, Cernyw, yn 1935 ac ymunodd â Choleg Brenhinol y Llynges, Dartmouth yn 1951. O fod wedi cynhyrchu a chyfarwyddo ‘The Long and the Short and the Tall’ o waith Willis Hall ar sgwâr focsio mewn awyrendy ar long awyrennau tra ar fordaith ger Gini Newydd, fe ymddiswyddodd o’i gomisiwn fel Is gapten gan dderbyn swydd fel Is- Oruchwyliwr Llwyfan.  Mae Tristan yn enwog am ei gyfraniad  fel cyfarwyddwr ar nifer o gyfresi teledu poblogaidd o’r 1960au i’r 1980au yn cynnwys Z-Cars, Doctor Who, Emmerdale Farm, Howard’s Way a Bergerac, a chymeradwywyd ei ffilm Eingl-Norwyaidd Dykket (‘The Dive’) yn dilyn ei dangos ar Sianel 4.
Cedwir Llawysgrifau Tristan de Vere Cole (Augustus John) yn y Llyfrgell Genedlaethol.  Mae’r casgliad yn cynnwys llythyrau a phapurau cysylltiedig Augustus John a Dorelia McNeill a ddanfonwyd at, neu a gasglwyd gan, Tristan de Vere Cole.
Mae mynediad yn £10.00 drwy docyn – am ddim i aelodau Penodau www.llgc.org.uk/index.php . I archebu tocynnau ar gyfer ‘Augustus John: A Personal Reminiscence’ cysylltwch â Siop y Llyfrgell ar 01970 632548 neu ewch i: drwm.llgc.org.uk/cgi-bin/go.pl/show_event.html;
Am fwy o wybodaeth:

Penodau: www.llgc.org.uk/index.php;
Tocynnau i’r Noson: drwm.llgc.org.uk/cgi-bin/go.pl/show_event.html;

Rhian Haf Evans
Swyddog Codi Arian LLGC, Digwyddiadau & Chyfranwyr: 01970 632 938
rhian.evans@llgc.org.uk 

Copyright © Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales 2006

Diweddarwyd: 22-10-2012