Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

The National Library of Wales

What's On?
Cefnogwch Ni

Cefnogwch Ni

Cefnogwch ni i ddatblygu ein casgliadau a'n gwasanaethau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Rhowch nawr!

Y Llyfrgell Genedlaethol yn derbyn cymynrodd Louis Feutren

Maw, 29 Tac 11 16:49:00

Mae Bwrdd Ymddiriedolwyr Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi cytuno i dderbyn cymynrodd a adawyd i’r Llyfrgell gan y diweddar Louis Feutren, sy’n cynnwys casgliad o bapurau a thapiau, a swm o arian.

Mae’r archif yn taflu goleuni ar fywyd Llydäwr a fu’n aelod o fudiadau ‘Gwenn-ha-Du’ a ‘Bezen Perrot’ yn ystod yr Ail Rhyfel Byd.  Ar ddiwedd yr Rhyfel gadawodd Louis Feutren Lydaw a theithio trwy Gymru ar ei ffordd i Weriniaeth Iwerddon lle’r ymgartrefodd a phriodi.  Bu’n athro trwy gydol ei yrfa a gweithiodd ei wraig fel nyrs:  bu hi farw yn 2008 ac yntau’n 2010.

“Mae hwn yn gasgliad nodedig sydd yn cynnwys deunydd o arwyddocâd a phwysigrwydd hanesyddol,” yn ôl yr Arglwydd Wigley, Llywydd y Llyfrgell. 
“Er fy mod yn condemnio’n llwyr ei ddaliadau gwleidyddol a'i weithgareddau yn ystod y Rhyfel, nid oedd gennym hawl fel aelodau o’r Bwrdd i ganiatáu i deimladau gwleidyddol ymyrryd â'n penderfyniad,” meddai.

Mae’r archif a’r rhodd ariannol gwerth £300,000 wedi’u derbyn yn unol â Siartr Frenhinol a Pholisi Casglu’r Llyfrgell, sydd yn nodi’r angen i gasglu, a sicrhau mynediad cyhoeddus at, ddeunydd o ddiddordeb Celtaidd.  Roedd y Bwrdd hefyd wedi gweithredu’n unol â gofynion y Comisiwn Elusennau a chan ddilyn cyngor cyfreithiol arbenigol wrth ddod i’r penderfyniad hwn. 

Mae’r Llyfrgell yn bwriadu clustnodi peth o'r arian tuag at brosiectau yn ymwneud â’r effeithiau dinistriol o ryfel a ffasgiaeth.



Nodiadau i Olygyddion 

•    Archif Feutren yw’r ddiweddaraf mewn cyfres o archifau awduron a gwleidyddion o Lydaw sydd wedi’u diogelu yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru dros y blynyddoedd. 

•    Mae hyn yn gydnaws â Siarter y Llyfrgell sy’n nodi mai rhan o nodau’r Llyfrgell yw:

“casglu, diogelu a rhoi mynediad at bob math a ffurf ar wybodaeth gofnodedig, yn enwedig mewn perthynas â Chymru a Chenedl y Cymry a phobloedd Celtaidd eraill, er budd y cyhoedd, gan gynnwys y rhai sy’n ymroi i ymchwil a dysg.”

www.llgc.org.uk/fileadmin/documents/pdf/Siartr_2006.pdf

•    Mae polisi Datblygu Casgliadau’r Llyfrgell (2010) yn ategu hyn:

3.4 Mae gan y Llyfrgell hefyd ddyletswydd i gasglu ym maes Astudiaethau Celtaidd ac mi fyddwn yn parhau i wneud hynny tra ar yr un pryd yn prynu llai o weithiau print sydd yn fwy ymylol i anghenion ein defnyddwyr.

www.llgc.org.uk/fileadmin/documents/pdf/Polisi%20Datblygu%20Casgliadau%20(2010).pdf


 


Darllen pellach

Prin iawn yw'r wybodaeth am y cyfnod yma yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Un o'r erthyglau prin hynny yw un gan Daniel Leach o Brifysgol Melbourne yn Awstralia: Bezen Perrot: The Breton nationalist unit of the SS, 1943-5




Am fwy o wybodaeth : Cyril Evans, Swyddfa'r Wasg, Llyfrgell Genedlaethol Cymru. 01970 632 545 cye@llgc.org.uk

Copyright © Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales 2006

Diweddarwyd: 22-10-2012