Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

The National Library of Wales

What's On?
Cefnogwch Ni

Cefnogwch Ni

Cefnogwch ni i ddatblygu ein casgliadau a'n gwasanaethau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Rhowch nawr!

Y Gwynt Garw

Iau, 05 Ion 12 14:15:00

Oherwydd gwyntoedd cryfion y bore ‘ma bu’n rhaid galw’r Brigâd Dân a’r Heddlu i asesu sefylldfa diogelwch y to yn y Trydydd Adeilad yng nghefn yr adeiladu. Nid oes mynediad i’r cyhoedd i’r Trydydd Adeilad fel rheol gan mai ardal swyddfeydd a chasgliadau y Llyfrgell a geir yno.

Achoswyd difrod i’r to yn y Trydydd Adeilad gan y gwynt. Mae’r to bellach wedi ei ddiogeli.

Bu y Llyfrgell ar gau i’r cyhoedd am beth amser bore yma ond bellach codwyd y gwaharddiad ar adael a mynychu’r adeilad. Mae croeso i’r cyhoedd a staff adael a dod mewn i’r adeilad, serch cyfyngir mynediad i’r Trydydd Adeilad.

Gwnaethpwyd gwaith ychwanegol i sicrhau diogelwch casgliadau’r Llyfrgell yn y rhan yna o’r adeilad. 




Copyright © Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales 2006

Diweddarwyd: 22-10-2012