Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

The National Library of Wales

What's On?
Cefnogwch Ni

Cefnogwch Ni

Cefnogwch ni i ddatblygu ein casgliadau a'n gwasanaethau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Rhowch nawr!

Penodiadau i Gorff Ymgynghorol Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Iau, 17 Mai 12 13:14:00

Mae Syr Deian Hopkin, Llywydd, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, yn falch o fod wedi  gallu cyhoeddi heddiw fod pedwar aelod newydd wedi’u hapwyntio i wasanaethu ar Gorff Ymgynghorol y Llyfrgell Genedlaethol.  Y pedwar yw:


Yr Athro Hazel Walford Davies

Athro Prifysgol wedi ymddeol, ysgolhaig, awdur a chyn aelod o Gyngor a Bwrdd Ymddiriedolwyr Llyfrgell Genedlaehthol Cymru. Mae’r Athro newydd gael ei hethol yn Gymrawd Anrhydeddus gan y Coleg Cymraeg Genedlaethol.


Andras Iago

Myfyriwr ymchwil Phd ym Mhifysgol Cymru Drindod Dewi Sant. Graddiodd o Brifysgol Aberystwyth gyda gradd yn y Dosbarth Cyntaf mewn Hanes a Chymraeg yn 2006; mae Andras yn un o ddarllenwyr ac ymchwilwyr selocaf y Llyfrgell Genedlaethol.


Dr Matthew Jarvis

Ysgolhaig ac arbenigwr mewn barddoniaeth Cymru yn Saesneg. Ef yw’r ‘Anthony Dyson Fellow in Poetry’ yn Ysgol Astudiaethau Diwylliannol Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.


Dr Ioan Matthews
Prf Weithredwr y Coleg Cymraeg Cenedlaethol .


Y Corff Ymgynghorol
Mae’r Corff Ymgynghorol yn tynnu ynghyd unigolion a sefydliadau yng Nghymru sydd â diddordeb yng ngwaith a chenhadaeth y Llyfrgell, er mwyn ei chynghori ar ddatblygiad ei strategaeth a’i gwasanaeth.  Prif swyddogaethau’r Corff yw:


1.    rhoi i sefydliadau perthnasol ac unigolion yng Nghymru’r modd i fynegi eu barn ar ddatblygiad y Llyfrgell

2.    cynnig cyngor arbenigol yn seiliedig ar wybodaeth ac arbenigedd mewn meysydd perthnasol i weithgareddau’r Llyfrgell

3.    gweithredu fel llysgenhadon a hyrwyddwyr y Llyfrgell a’i hamcanion.
Penodwyd y pedwar aelod newydd drwy gystadleuaeth agored a byddant yn aelodau o’r Corff am bedair blynedd, yn y lle cyntaf.

Gwybodaeth Bellach:
Elin Hâf, Swyddfa'r Wasg LLGC: 01970 632534 post@llgc.org.uk

Copyright © Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales 2006

Diweddarwyd: 22-10-2012