Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

The National Library of Wales

What's On?
Cefnogwch Ni

Cefnogwch Ni

Cefnogwch ni i ddatblygu ein casgliadau a'n gwasanaethau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Rhowch nawr!

Ein Helpu i Gyflawni – Gwirfoddolwyr i roi cyd-destun i gartwnau hanesyddol Dorrien

Gwe, 01 Meh 12 11:37:00

Ar 14 Mehefin bydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn lansio’r cynllun Ein Helpu i Gyflawni sy’n golygu bod y Llyfrgell Genedlaethol, yn agor ei drysau i wirfoddolwyr. Bydd hyn yn rhan o Strategaeth Gwirfoddoli Llyfrgell Genedlaethol Cymru a’r prosiect gyntaf fydd rhoi cyd-destun cymdeithasol a gwleidyddol i gartwnau Dorrien yn y Western Mail a’r South Wales Echo.


Meddai Syr Deian Hopkin, Llywydd y Llyfrgell:
“Cynllun yw hwn fydd yn rhoi cyfle i ddinasyddion wirfoddoli a gweithio o fewn sefydliad o bwys cenedlaethol -  mae ganddo’r  potensial i wneud gwahaniaeth mawr i fywydau llawer o bobl a’r un pryd ein helpu ni  i wneud ein gwaith yn well a darparu gwell gwasanaeth i’n dinasyddion”


Roedd Andrew Green, Llyfrgellydd, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, yn awyddus i bwysleisio nad pwrpas recriwtio gwirfoddolwyr oedd er mwyn iddynt gymryd drosodd gwaith gweithwyr cyflogedig, ond yn hytrach:

“Bydd gwirfoddolwyr yn ein galluogi i wneud pethau na fyddai modd eu gwneud hebddynt. Rhoi gwerth ychwanegol fyddant i’r hyn a gyflawnir ar hyn o bryd. Edrychwn yn ymlaen yn fawr iawn at eu croesawu atom”.


Cartwnau Dorrien
Y gwirfoddolwyr cyntaf i gael eu penodi yw criw o fyfyrwyr o Adran Hanes a Hanes Cymru Prifysgol Aberystwyth. Bydd y gwirfoddolwyr hyn yn gweithio ar gasgliad y Llyfrgell o gartwnau Dorrien. Roedd Dorrien yn gartwnydd gyda’r Western Mail a’r South Wales Eco. Bu farw yn 1998. Hyd yma, nid oes modd i’r cyhoedd gael mynediad at y casgliad a bydd y gwaith a gyflawnir gan y gwirfoddolwyr yn golygu y bydd y Llyfrgell  gam yn nes at allu rhannu cyfoeth gwaith Dorrien gyda’r byd.


Rhennir  casgliad Dorrien yn ddau  (1) Cartwnau gwleidyddol,  sef  fersiwn gwreiddiol o gartwnau a gyhoeddwyd  mewn papurau newydd fel y Western Mail neu’r South Wales Echo a (2)  Portreadau, sef portreadau gwreiddiol o gricedwyr, golffwyr a bocswyr.  Rhwng y ddau gategori y mae yna ychydig dros 700 o eitemau.


Penodi Cydlynydd
Yn ddiweddar, gyda chymorth Cronfa Loteri Fawr, y mae’r Llyfrgell wedi gallu penodi Gwyneth Davies yn gydlynydd gwirfoddoli a hi fydd yn gyfrifol am lunio prosiectau newydd a hyrwyddo’r cyfleoedd gwirfoddoli. E-bost Gwyneth yw: gwd@llgc.org.uk a dylai unrhyw un sydd â diddordeb mewn gwirfoddoli gysylltu â hi.


Gwirfoddoli o bedwar ban y byd
Rhan o waith Gwyneth hefyd fydd datblygu prosiectau a fydd yn galluogi i wirfoddolwyr weithio o bell.

Meddai Andrew Green eto:

“Rydym am roi cyfle i bawb wirfoddoli - ble bynnag ydych chi’n byw - Golan Caernarfon neu’r Golan Heights - bydd modd i chwi gynnig eich hunain fel gwirfoddolwyr. Mae’r dechnoleg newydd a’r rhyngweithio hwylus sy’n digwydd rhwng y Llyfrgell a’i phobl yn datblygu o ddydd i ddydd ac nid yw pellter erbyn hyn yn rheswm dros beidio a chynnig eich hun fel gwirfoddolwr. Wedi’r cyfan, y byd yw ein cynulleidfa erbyn hyn o ran darparu a rhannu gwybodaeth: rwy’n siŵr fod yna unigolion dawnus a gwybodus - hyd yn oed yn y mannau mwyaf pellennig - allai helpu’r Llyfrgell i ddarparu’r gwasanaeth gorau posibl i Gymru a’r byd”


Y cyhoedd ar eu hennill
Bydd pawb sydd am ddefnyddio gwasanaethau’r Llyfrgell, ac yn enwedig ei chasgliadau, er mwyn dysgu, ymchwilio a chanfod gwybodaeth newydd, ar eu hennill yn fawr iawn o ganlyniad i’r gwaith a gyflawnir gan wirfoddolwyr. Bydd gweld gwirfoddolwyr yn cyflawni prosiectau’r cynllun yn esgor ar ddarparu gwybodaeth a mynediad at ddata pwysig ac eang na fyddai ar gael i’r cyhoedd phe na bai’r cynllun yn bod. Y mae potential y cynllun hwn o ran darparu gwybodaeth newydd i’r byd yn sylweddol iawn a nifer y buddiolwyr yn aneirif

Bydd Helpu ni i Gyflawni yn cael ei lansio yn:
Drwm, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth
1.00 o’r gloch, 14 Mehefin 2012


Am wybodaeth bellach:

Siôn Jobbins, Swyddfa’r Wasg LlGC: 01970 632902 post@llgc.org.uk






Copyright © Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales 2006

Diweddarwyd: 22-10-2012