Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

The National Library of Wales

What's On?
Cefnogwch Ni

Cefnogwch Ni

Cefnogwch ni i ddatblygu ein casgliadau a'n gwasanaethau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Rhowch nawr!

27/04/2013 Diweddariad Tân

Gwe, 03 Mai 13 10:46:00

Ynglŷn â’r tân yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru ddoe (Dydd Gwener 26 Ebrill)Yn dilyn seinio’r larwm tân am tua 2:40pm llwyddodd y Llyfrgell i hebrwng pawb allan o’r adeilad yn ddiogelLlwyddod y Gwasanaethau Tân i ddiffodd y tân a dechrau ar y gwaith o arbed y cynnwys


 

Ar hyn o bryd mae’r Gwasanaethau Tân yn ymchwilio i achos y tân. Yn y man, bydd y Llyfrgell yn cynnal eu hymchwiliad eu hunainRoedd contractwyr yn gweithio ar do'r adeilad ddoe yn union cyn i'r tân gynnau ond nid yw’r Llyfrgell mewn unrhyw sefyllfa i ddod i unrhyw gasgliadau ar sail hyn. 


 

Dioddefodd y Llyfrgell ddifrod tânmwg a dŵr i ardaloedd a ddefnyddid yn bennaf fel swyddfeydd. Ni effeithiwyd unrhyw storfeydd a'r unig gasgliadau i ddioddef unrhyw niwed oedd y rhai oedd y staff yn eu defnyddio ar y pryd yn yr ardaloedd hynny.  Mae’r Llyfrgell ar hyn o bryd yn gweithio’n agos gyda’r Gwasanaethau Tân i asesu’r difrod ac i sicrhau mynediad diogel i’r staff i’r ardaloedd a effeithiwyd. 

 


Dywedodd Arwel Jones ar ran y LlyfrgellLlwyddwyd i wagio’r adeilad yn effeithiol ddoeRydym wedi gweithredu cynllun argyfwng fydd yn diogelu'r adeilad a'n casgliadau rhag rhagor o ddifrodMapeirianwyr yn ein cynorthwyo gyda'r broses hon. 


 

 


Dywedodd Syr Deian HopkinLlywydd y Llyfrgell: 'Hoffwn ddatgan fy rhyddhad at y newyddion bod pawb wedi llwyddo i adael yr adeilad yn ddiogel pan seiniwyd y larwm tân ac ar ran y Llyfrgell hoffwn ddiolch i Wasanaethau Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru am ymateb yn sydyn a’u hymdrechion i ddiffodd y tânHoffwn hefyd ddiolch i’r nifer fawr o unigolion a sefydliadau am eu cynigion sydyn o gymorth ymarferol a’u cydymdeimlad ar y cyfnod anodd hwn yn hanes y Llyfrgell. 


 

Bydd y Llyfrgell yn parhau ar gau ddydd Llun 29 Ebrill tra byddwn yn parhau i asesu'r sefyllfa. Bydd y Llyfrgell yn cyhoeddi diweddariadau cyson i’r staff a’r cyhoedd drwy gyfrwng ei gwefanfacebook a’i chyfrif trydar. 


 

Am ragor o fanylion. 

Elwyn Williams 07866 834109 

Arwel Jones 07527 198861  

Copyright © Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales 2006

Diweddarwyd: 22-10-2012