Cefnogwch ni i ddatblygu ein casgliadau a'n gwasanaethau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Gwe, 03 Mai 13 12:15:00
Bydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn ail agor i’r cyhoedd ddydd Mawrth 30 Ebrill yn dilyn tân yn yr adeilad ddydd Gwener 27 Ebrill.
Ar ddydd Sul yr 28ain cwblhaodd y Llyfrgell y gwaith arbediad dybryd ar gasgliadau oedd wedi cael eu lleoli yn ardal y tân ac rydym yn y broses o adleoli 70 aelod o staff i rannau eraill o adeilad y Llyfrgell.
Meddai Arwel Jones, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyhoeddus:
‘Rydym am bwysleisio ein bod yn gweithredu fel arfer i’n darllenwyr, defnyddwyr ac ymwelwyr. Ddydd Gwener bu i ni gymryd camau rhagofal o ohirio rhywfaint o ddigwyddiadau’r wythnos, ond rydym yn ffyddiog y gallwn ddarparu gwasanaeth llawn i’n defnyddwyr.
Hoffem gymryd y cyfle hwn i ddiolch eto i bawb o bob rhan o’r byd am eu consyrn a’u cefnogaeth. Mae hyn yn golygu llawer i’n staff a’n bwrdd’ ychwanegodd.Byddwn yn rhyddhau datganiad llawn yn fuan.
Gwybodaeth bellach:
Arwel Jones/Elwyn Williams 01970 632534/01970 632545 post@llgc.org.uk