Cefnogwch ni i ddatblygu ein casgliadau a'n gwasanaethau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Mer, 10 Hyd 07 09:56:00
Mewn cyfres o 60 engrafiad cywrain, mae’r artist o Berriew ym Maldwyn yn darlunio enwau torfol Saesneg am wahanol adar o ‘Abandonment of Cuckoos’ i ‘Zephyr of Longtailed Titmice’. Bydd yr arddangosfa yn y Llyfrgell Genedlaethol hyd 5 Ionawr 2008.
Dyma ail arddangosfa Colin See-Paynton yn y Llyfrgell Genedlaethol ac yn cyd-fynd â hi mae llyfr hyfryd wedi ei argraffu gan wasg arbenigol Gregynog.
‘Mae wedi bod yn freuddwyd oesol ac agos i’m calon y cawn i ryw ddydd greu arddangosfa thematig i’w chyhoeddi mewn llyfr prydferth ac a fyddai’n ddigon cryf i sefyll fel arddangosfa ar ei thraed ei hun. Dyma’r arddangosfa hwnnw ac mae’n gwireddu breuddwyd i mi’ esboniodd Colin.
Mae engrafiadau Colin wedi dwyn clod gan un o naturiaethwyr mwyaf Prydain, Syr Richard Attenborough. Dywed, ‘mae ei fwynhad o siâp hardd yr adar sy’n cael eu gwau mor gywrain gan yr ysgrythwr, ei sgil wrth amrywio’r gwead er mai du a gwyn yw’r unig liwiau sydd ganddo, ei fwynhad amlwg wrth greu ei waith mewn cynlluniau gogoneddus, wedi dod â rhywbeth newydd i’r portread o adar.’
Mae Colin See-Paynton yn adnabyddus iawn fel lladmerydd aruchel o waith yr ysgrythwr. Mae’n Gymrawd o Academi Frenhinol Cambria, Cymrawd Anrhydeddus y Royal Society of Painter Printmakers ac yn aelod o’r Society of Wood Engravers. Mae wedi arddangos yn helaeth fel rhan o grŵp neu fel unigolyn ac yn arddangos yn fynych yn Arddangosfeydd Haf y Royal Academy. Mae ei waith wedi arddangos mewn sawl man gan gynnwys Llyfrgell Genedlaethol Cymru, y Victoria and Albert, yr Ashmolean, ac Amgueddfa Cymru.
Agorir Of a Feather – an avian alphabet yn swyddogol am 2.00 Sadwrn 20 Hydref gan David Alston, Cyfarwyddwr Celf Cyngor Celfyddydau Cymru.
'Of a Feather – an avian alphabet' Colin See-Paynton
20 Hydref 2007 – 5 Ionawr 2008
Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Aberystwyth
Arddangosfa deithio yw Of a Feather. Mae’n cychwyn yn y Llyfrgell Genedlaethol ac yn ymweld â:
Am wybodaeth bellach:
Siôn Jobbins, Swyddfa’r Wasg LlGC: 01970 632 902 sij@llgc.org.uk
Dolenni: