Cefnogwch ni i ddatblygu ein casgliadau a'n gwasanaethau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Iau, 01 Tac 07 11:53:00
Fel Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru rhwng 1983 a 2004, mae gan David Jenkins atgofion byw o lywodraeth Margaret Thatcher a’i heffaith ar Gymru a’r mudiad llafur. Yn narlith flynyddol yr Archif Wleidyddol Gymreig ar ddydd Gwener 2 Tachwedd, bydd David Jenkins yn ail-fyw brwydrau ffyrnig yr undebau gyda’r Llywodraeth ac hefyd yr hanes bythgofiadwy am sut y llwyddodd yr undebau a’r Ceidwadwyr i gydweithio er mwyn cryfhau economi Cymru.
‘Fe gafodd TUC Cymru a’r Llywodraeth Geidwadol dwy ddadl ffyrnig yn yr 1980au - streic y diwydiant dur a streic y glowyr. Ac eto, ar yr union adeg roedd yr un bobl yn llwyddo i eistedd wrth y bwrdd i drafod sut y dylid cydweithio er mwyn denu buddsoddiad newydd i Gymru, datblygu menter newydd neu dderbyn cyllid tuag at agor canolfan gydweithredol newydd,’ esboniodd David Jenkins.
‘Roedd Cymru ar flaen y gad yn y brwydrau amlwg adeg streiciau’r glowyr a’r diwydiant dur, ond hefyd, ac mae hyn yn llai amlwg, yn cydweithio gyda’r Llywodraeth. Roedd y ddau ohonom yn honni ein bod ni’n arch-elynion, ac eto, roedd y ddau ohonom yn gweld rhinwedd mewn eistedd yn bwyllog wrth y bwrdd a gwneud dêl. Mae sut y llwyddwyd i wneud hynny yn dal i fod yn destun rhyfeddod i mi,’ meddai David.
Ganwyd a magwyd David Jenkins yng Nghaerdydd gan raddio gyda gradd mewn Gwleidyddiaeth ac Economeg o Brifysgol Lerpwl yn 1970 ac yna ennill tystysgrif athro o Brifysgol Llundain.
Wedi gweithio am 21 mlynedd fel prif swyddog undebau llafur Cymru, ymddeolodd o’i swydd fel Ysgrifennydd Cyffredinol yn Ebrill 2004 yn 55 oed.
Er ei fod wedi ymddeol, mae David yn dal yn weithgar ym mywyd cyhoeddus ac mae bellach yn byw yng Nghrughywel. Mae’n briod a chanddo dri phlentyn mewn oed. Dyfarnwyd yr OBE iddo yn 2004 i gydnabod ei gyfraniad i wella’r gyd-berthynas ddiwydiannol yng Nghymru.
Mae Dr John Graham Jones, Pennaeth Archif Wleidyddol Gymreig Llyfrgell Genedlaethol Cymru, yn falch iawn i groesawu David Jenkins fel y darlithydd gwadd eleni.
‘Mae’r Archif Wleidyddol Gymreig wedi denu rhai o wleidyddion a haneswyr gwleidyddol pwysicaf Cymru i draddodi’r Ddarlith Flynyddol. Rydym yn falch iawn i groesawu David Jenkins a oedd yn Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru yn ystod cyfnod o newid mawr ym mywyd Cymru,’ meddai’r Dr John Graham Jones.
Gellir darllen y ddarlith arlein.
Sefydlwyd yr Archif Wleidyddol Gymreig yn 1983. Mae’n casglu llenyddiaeth gan holl bleidiau gwleidyddol Cymru a grwpiau ymgyrchu yn ogystal â gohebiaeth gan rai o’r ffigyrau gwleidyddol mwyaf, o David Lloyd George i wleidyddion heddiw. Tudalennau'r Archif Wleidyddol Gymreig.
Gwybodaeth Bellach:
Siôn Jobbins, Swyddfa’r Wasg: 01970 632 902 sij@llgc.org.uk